Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda thresmaswr ar fy nhir
I ddechrau dylech ofyn i’r sawl sydd ar y tir adael. Os bydd yn gwneud hynny, bydd popeth yn iawn. Fodd bynnag, gallech gael problemau os bydd yn gwrthod gadael.
Gallwch chi fod yn euog o nifer o droseddau os byddwch yn ceisio symud y tresmaswr a’i eiddo oddi ar y tir drwy ddefnyddio grym.
Y dull gorau a’r mwyaf diogel o weithredu yw cael gorchymyn llys a all, os caiff ei dorri, droi’r sefyllfa’n fater troseddol.
Os bydd yr heddlu’n mynychu digwyddiad tebyg i hyn, dim ond arsylwi am droseddau posibl a gyflawnir gan y naill barti allwn ni ei wneud.
Ni allwn helpu i symud y tresmaswr neu ei eiddo oddi ar eich tir. Er, os bydd grwpiau mwy o feddianwyr yn achosi difrod mae gennym rai pwerau.
Pwy sy’n gyfrifol am sbwriel a adewir gan dresmaswyr?
Os oedd y tresmaswyr ar dir y cyngor, y cyngor sy’n gyfrifol am symud unrhyw sbwriel.
Ar dir preifat, cyfrifoldeb perchennog y tir ydyw i symud y sbwriel, er y gall y cyngor lleol ei symud a chodi ffi.
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.