Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda siop neu werthwr ynglŷn ag eitem anfoddhaol neu a gamwerthwyd
Os yw gwerthwr yn dweud wrthych mai Chanel yw gwneuthuriad persawr penodol, ei fod yn ei werthu i chi fel eitem ddilys, yn codi pris rhesymol arnoch a’ch bod yn canfod yn ddiweddarach nad Chanel ydyw, dylech gysylltu â’ch swyddfa Safonau Masnach leol. Bydd yn delio â’r gŵyn ar eich rhan.
Er y gellir dweud bod y gwerthwr wedi cymryd eich arian drwy dwyll, Safonau Masnach yw’r bobl orau i ddelio â’r materion hyn.
Mae’r egwyddor hon yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bryniannau defnyddwyr. Fel rheol, byddem yn argymell prynu cynhyrchion o’r fath o siopau dibynadwy er mwyn osgoi cynhyrchion ffug a allai fod yn niweidiol.
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.