Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chyn bartner neu briod ynglŷn â thorri ei hawliau mynediad at ein plant
Os ydych chi’n amau bod eich plant mewn perygl ar y pryd, ffoniwch 999.
Cyn belled nad oes perygl ar y pryd, mater cyfraith teulu yw hwn ac nid oes gennym yr awdurdod i ymyrryd.
Rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor gan eich cyfreithiwr. Mae’n debygol y bydd eich achos yn dychwelyd i’r llys, a fydd yn penderfynu pa gamau i’w cymryd.
Efallai y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol:
Gwahanu neu ysgaru: beth sydd angen i chi ei wneud
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.