Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chymydog ynglŷn â’i gamera teledu cylch cyfyng yn edrych ar fy eiddo
Mae llawer o bobl yn gosod teledu cylch cyfyng fel mesur diogelwch cartref oherwydd ei fod wedi’i brofi i fod yn offeryn defnyddiol mewn taclo troseddu. Nid yw camerâu a ddefnyddir at ddibenion cyfyngedig y cartref yn ddarostyngedig i Ddeddf Diogelu Data 2018.
Fodd bynnag, os yw’r lluniau’n cynnwys ardaloedd y tu hwnt i hyn, megis strydoedd cyfagos neu eiddo arall, gallai greu problemau. Gallai fod problemau’n ymwneud â phreifatrwydd ac aflonyddu os ydych yn cael eich recordio yn eich cartref.
Y cam cyntaf yw sgwrsio gyda’ch cymydog i weld a yw’n fodlon ail-leoli’r camera fel nad yw’n edrych ar eich eiddo. Os nad yw hynny’n gweithio ac rydych eisiau cymryd camau pellach, rydym yn argymell cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.
Efallai y byddwch yn teimlo bod adnoddau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ddefnyddiol hefyd.
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.