Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chymydog ynglŷn â theganau ei blant, megis peli neu ffrisbis, yn fy ngardd
Nid cynnwys yr heddlu yn y math hwn o achos yw’r camau gorau fel yr ymateb cyntaf. Gall waethygu’r mater ac achosi mwy o broblemau i’r ddau barti.
Os yw’n bosibl, siaradwch â’ch cymydog am y broblem a cheisiwch ei datrys rhyngoch.
Sylwer, os byddwch yn cadw’r teganau ac yn gwrthod eu dychwelyd, efallai y gallech chi gael eich erlyn.
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.