Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chymydog ynglŷn â mwg yn dod o’i goelcerthi neu farbeciws
Os yw coelcerth fel petai allan o reolaeth ac yn beryglus a’ch bod yn poeni am ddiogelwch pobl neu eiddo, ffoniwch 999 a gofynnwch am y frigâd dân.
Nid yw tanio coelcerth yn anghyfreithlon, ond gall mwg fod yn niwsans statudol. Bydd adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol yn gallu gweithredu os yw’r mwg o’r goelcerth yn cael ei ystyried yn niwsans statudol.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
Gall y cyngor rwystro’r person rhag cyflawni niwsans statudol, a gall methu â chydymffurfio arwain at erlyniad.
Fodd bynnag, os mai anaml y bydd y tanau’n cael eu cynnau, mae’n annhebygol y bydd y cyngor yn gweithredu.
Gallai’r adnoddau canlynol hefyd fod yn ddefnyddiol:
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.