Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chymydog ynglŷn â ffiniau ein heiddo
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni, neu wrthi’n cael ei chyflawni, nid oes gennym yr awdurdod i ymyrryd mewn anghydfod ynghylch ffiniau.
Os na allwch ddatrys y mater mewn modd cyfeillgar gyda’ch cymydog, rydym yn awgrymu eich bod yn gofyn am farn cyfreithiwr i’w ddatrys.
Gallech hefyd gysylltu â’ch banc, cymdeithas adeiladu, neu pwy bynnag sydd â gweithredoedd eich eiddo, er mwyn cadarnhau’r ffiniau.
Gallai’r adnoddau hyn hefyd fod yn ddefnyddiol:
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.