Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn cynllunio digwyddiad neu orymdaith, yn ôl y gyfraith efallai y bydd angen i chi ein hysbysu ymlaen llaw. Boed yn ŵyl, sioe, parti, gwrthdystiad llonydd neu orymdaith, fe fyddwn yn gweithio gyda chi er mwyn gwneud yn siŵr bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
Rydw i’n cynllunio gorymdaith drwy ardal gyhoeddus
Diolch. O dan adrannau 11(1) ac 11(3) Deddf Trefn Gyhoeddus 1986, rhaid i chi ddweud wrthym o leiaf chwe diwrnod gwaith cyn y mae’r orymdaith i fod i ddigwydd.
Cliciwch 'Dechrau' isod i lenwi ein ffurflen ar-lein syml a chyflym.
Cyfartaledd amser cwblhau: 20 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych, os yn bosibl:
Efallai hefyd y bydd y wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau cyhoeddus yn ddefnyddiol.
Sylwer: os ydych yn bwriadu defnyddio ffordd ar gyfer gorymdaith, bydd angen i chi hefyd ofyn am ganiatâd gan yr awdurdod sy’n gyfrifol amdani, fel arfer y cyngor.
Cysylltwch â’r cyngor a gofyn am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro (TTO).
Dechrau