Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn cynllunio digwyddiad neu orymdaith, yn ôl y gyfraith efallai y bydd angen i chi ein hysbysu ymlaen llaw. Boed yn ŵyl, sioe, parti, gwrthdystiad llonydd neu orymdaith, fe fyddwn yn gweithio gyda chi er mwyn gwneud yn siŵr bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
Rydw i’n cynllunio digwyddiad llonydd mewn man cyhoeddus
Diolch. Yn yr achos hwn, er nad oes yn rhaid i chi o dan y gyfraith ddweud wrthym, hoffem i chi roi gwybod i ni am eich digwyddiad.
Gallwn roi cyngor gwerthfawr er mwyn i chi gael y budd mwyaf o’ch digwyddiad.
Er enghraifft, gallwn ddweud wrthych am unrhyw ddigwyddiadau, gorymdeithiau neu wrth-brotestiadau eraill sy’n cael eu trefnu yn yr un ardal ar yr un diwrnod. Er mwyn rhoi gwybod i ni a chael y cyngor hwn, cliciwch y botwm ‘Dechrau’ isod i gwblhau ein ffurflen ar-lein syml a chyflym.
Cyfartaledd amser cwblhau: 12 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych, os yn bosibl:
Byddwn yn cysylltu â chi os byddwn yn canfod problemau posibl neu os oes gennym ragor o gwestiynau.