Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 32 oed o Wrecsam wnaeth ymosod yn dreisgar a rheoli ei cyn gymar wedi ei garcharu.
Mi gyflawnodd Craig Griffiths, o Ffordd y Lofa, gam-driniaeth emosiynol a chorfforol dros gyfnod o bedair blynedd.
Mi gafodd ei garcharu am ddwy flynedd a 10 mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Mawrth 13 Mai, ar ôl cyfaddef ymddygiad gorfodol a rheolaethol, tagu bwriadol ac ymosodiad.
Mi gyfaddefodd hefyd i gyhuddiad o stelcian.
Ym mis Tachwedd llynedd, mi gysylltodd y dioddefwr efo’r heddlu i ddweud bod ei chyn gymar yn ei chartref, ac ‘roedd hi eisiau iddo adael ar ôl iddo ymosod arni.
Mi gafodd ei arestio o dan amheuaeth o ymosodiad domestig a thagu nad oedd yn angheuol.
Yn dilyn ei arestiad, mi ddatgelodd y dioddefwr i swyddogion bod Griffiths wedi ei tharo yn ei hwyneb, ei chicio yn ei chefn a chydio o amgylch ei gwddw, gan ei hatal rhag anadlu.
Mi osodwyd amodau mechnïaeth iddo beidio â chysylltu efo’r dioddefwr, ond ni wnaeth Griffiths gydymffurfio.
Ym mis Rhagfyr, mi ‘roedd y dioddefwr adref yn gwylio’r teledu, pan gysylltodd y teledu i Alexa, lle ymddangosodd lun o’r ddau ynghyd â neges gan y diffynnydd.
Yna, mi gafodd ei gyhuddo a’i remandio i’r ddalfa.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, Cwnstabl Martin Brannan: “Mi ‘roedd hyn yn brofiad hynod o ofidus i’r dioddefwr, oedd yn ofni am ei bywyd yn dilyn ymgyrch Griffiths o gam-driniaeth tuag ati.
“’Dwi’n cymeradwyo ei dewrder wrth ddod at yr heddlu a rhoi datganiad.
“Mae’r achos hwn yn anfon neges eglur na fyddai Heddlu Gogledd Cymru yn goddef trais yn erbyn merched a genethod.”
Mi dderbyniodd Griffith orchymyn atal sy’n para deng mlynedd er mwyn gwarchod y dioddefwr.