Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae nifer o Cadetiaid gwirfoddol yr Heddlu wedi cael eu canmol am eu gwaith fel rhan o fenter aml-asiantaeth barhaus Adnewyddu Bangor.
Nos Fawrth, Mai 20fed, cyflwynodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes lythyr o gydnabyddiaeth i’r cadetiaid am eu cefnogaeth i ddosbarthu taflenni am y fenter i eiddo ym Mangor.
Dosbarthwyd y taflenni i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith parhaus i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfniadol yn yr ardal.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes: “Roeddwn i eisiau diolch a chydnabod ein cadetiaid gwych o Heddlu Gogledd Cymru am y rhan maen nhw wedi’i chwarae yn adfywio Bangor sy’n ymdrech aml-bartneriaeth i fynd i’r afael â throseddau trefniadol.
“Rwyf wedi bod yn awyddus o’r dechrau i gynnwys holl aelodau’r gymuned yn llawn ac mae’r taflenni sy’n cael eu dosbarthu wedi ein galluogi i gynyddu ymwybyddiaeth trigolion a chefnogaeth i’r fenter.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r arweinwyr cadetiaid am gydgysylltu’r ymdrechion hyn a’u rolau eu hunain fel rhan o dîm Adfywio Bangor.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i Grŵp Llandrillo Menai am ganiatáu i ni am y ddefnydd oi hadeiliad.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am droseddau difrifol a threfniadol yn eu hardal gysylltu â’r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau.