Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Fel rhan o ymgyrch barhaol er mwyn lleihau anafiadau a marwolaethau beicwyr modur, mi fydd diwrnod ymgysylltu yn cael ei gynnal gyda phartneriaid diogelwch y ffyrdd ym Metws-y-Coed ar ddydd Sul (Mai 4) fel rhan o Ymgyrch Apex Heddlu Gogledd Cymru.
Gyda’r rhagolygon am dywydd braf a chynnes dros benwythnos Gŵyl y Banc, mi fydd swyddogion yn ymweld â maes parcio’r Parc Cenedlaethol, Cae Llan (gyferbyn â’r orsaf drenau) ynghyd â chydweithwyr a phartneriaid o Heddlu Dyfed Powys, cynllun Biker Down Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Blood Bikes, Bike Doc ac Uned Fforensig Ymchwilio Gwrthdrawiadau.
Bydd hwn yn gyfle i swyddogion gyfleu eu negeseuon a thrafod yr ymgyrch, sydd wedi’i hanelu at hyrwyddo diogelwch beicwyr a chodi ymwybyddiaeth o’r peryglon ac ymddygiad sy’n gallu arwain at wrthdrawiadau difrifol ac angheuol. Bydd partneriaid hefyd yno yn hybu’r buddion o fynychu gweithdy Beicio Diogel, yn trafod digwyddiadau Biker Down a’r pwysigrwydd o wisgo’r cit cywir a rhai o’r ffactorau sydd wedi arwain at wrthdrawiadau.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro, Jason Diamond, sy’n arwain ar Ymgyrch Apex ar ran yr Adran Gweithrediadau Cefnogol: “Roedd yr adborth o’r digwyddiad llynedd yn hynod o bositif a cawsom y cyfle i siarad â sawl beiciwr modur a modurwr o bob oed.
“Rydym yn mawr obeithio cael yr un fath o ymrwymiad eto eleni a byddwn yn annog unrhyw un a fydd yn ardal Betws-y-Coed ar ddydd Sul i ddod draw am sgwrs.”
Gan ddefnyddio’r is-bennawd Ei di adra heno, bydd bagiau hefo eitemau am ddim yn cael eu dosbarthu fel rhan o’r diwrnod ymgysylltu, ac mi fydd fan ddigidol gyda negeseuon allweddol wedi’u hanelu at feicwyr modur a modurwyr yn teithio ar draws y rhanbarth ac yn ymweld ag ardaloedd sy’n boblogaidd hefo beicwyr modur.
Darllenwch fwy am Ymgyrch Apex yma Ymgyrch Apex: Ymgyrch Diogelwch Beiciau Modur 2025 | Heddlu Gogledd Cymru
*Bydd swyddogion ym Maes Parcio Cae Llan, sydd gyferbyn â’r orsaf drenau, o 9 o’r gloch y bore.