Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mi aeth swyddog o Heddlu Gogledd Cymru i arddwest gyntaf y flwyddyn ym Mhalas Buckingham.
Mi wahoddwyd Rhingyll Dave Smith i’r digwyddiad brenhinol ddydd Mercher, a gynhaliwyd gan y Brenin a’r Frenhines yn nodi diwrnod coffau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE), ac er mwyn cydnabod a gwobrwyo gwasanaeth cyhoeddus.
Mi dderbyniodd y swyddog Plismona Lleol Gogledd Sir y Fflint y gwahoddiad ar ôl iddo dderbyn cydnabyddiaeth yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin yn gynharach eleni.
Mi dderbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, am wasanaethau i’r gymuned ac i elusennau.
Mi gyfarfu Rhingyll Dave Smith, 38, o Frychdyn, Sir y Fflint, efo’r Frenhines Camilla, lle gwnaeth drafod Clwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam – y tîm pêl-droed elusennol wnaeth o ei ddechrau yn gynnar yn 2002 – a’i ymdrechion codi arian.
Y bwriad oedd i swyddogion chwarae gemau yn erbyn amrywiaeth o wrthwynebwyr tra nad oedden nhw ar ddyletswydd, er mwyn creu cydlyniad rhwng yr heddlu a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, wrth hefyd godi arian i elusennau lleol.
Dywedodd: “Mi ‘roedd yn fraint fawr cael gwahoddiad a chyfarfod llawer o bobl ysbrydoledig o ledled y DU sy’n gwneud llawer iawn o fudd yn eu cymunedau.
“Mi gawsom ni’n dewis o’r dorf i gyfarfod y Frenhines ar y diwrnod, lle mi gefais y cyfle i drafod CPD Heddlu Wrecsam a’n hymdrechion codi arian.
“Mi ‘roedd hi’n ddynes annwyl iawn, ac mi ddangosodd ddiddordeb gwirioneddol mewn pwy ydw i ac o le ‘dwi’n dod, pa heddlu ‘dwi’n ei gynrychioli a pham oeddwn i yno.
“Mi ‘roedd y diwrnod yn hyd yn oed mwy arbennig, oherwydd mi gefais y cyfle i’w rannu efo fy ngwraig, sy’n disgwyl babi. Mi ofynnodd y Frenhines am ein teulu, ac mi drafodon ni enwau posib ar gyfer y babi, hefyd.
“Mi ‘roedd cael amser personol, un i un efo’r Frenhines yn brofiad wirioneddol arbennig.
“Mi ‘roedd yn fraint cael bod yno, ac mi ‘roedd yn fraint cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru yn y digwyddiad.”
Ers ffurfio CPD Heddlu Wrecsam, mae Rhingyll Smith a’r tîm wedi codi bron i £60,000 er budd achosion da ac elusennau, ac wedi derbyn nifer o roddion gan sêr Hollywood, Ryan Reynolds, Rob McElhenney a Michael Sheen, yn ogystal â chyhoedd Gogledd Cymru a thu hwnt.
“’Doeddwn i byth yn bwriadu cael unrhyw gydnabyddiaeth ynglŷn â chodi arian, a ‘doeddwn i’n bendant ddim yn rhagweld gwobrau na chydnabyddiaeth gan y Palas – y bwriad yn gyffredinol oedd ond i drio gwneud gwahaniaeth,” ychwanegodd Rhingyll Smith.
“’Dwi ddim yn aml yn cael adegau pan dwi’n teimlo’n falch, ond ‘dwi’n cofio sefyll yn y gerddi yn edrych ar y palas a’r holl bobl yno, a’i gymryd i gyd i fewn fy mod yng ngardd gefn y teulu brenhinol.
“Mi ‘roedd yn rhyfeddol, ac mi ‘roeddwn i’n ddiolchgar bod yno.
“Ond hogyn o Lannau Dyfrdwy ydw i, oedd eisiau ymuno efo’r heddlu er mwyn helpu pobl eraill, ‘doeddwn i byth yn meddwl fuaswn i’n cael y math yma o gyfle. ‘Dydy o’n ddim byd o’n i’n fwriadu ei gael, ond i bobl eraill sylwi be’ ti’n ei wneud – a chael cydnabyddiaeth gan y Brenin – mae wir yn fraint.”
Mi ymunodd y Dywysoges Frenhinol, Dug a Duges Caeredin, a Dug a Duges Caerloyw efo’r Brenin a’r Frenhines yn y parti.
Mi ddywedodd Rhingyll Smith bod y teulu brenhinol yn sefyll ar ben grisiau’r ardd pan gyrhaeddon nhw, er mwyn gwrando ar yr anthem genedlaethol cyn gwasgaru ymhlith y dorf.
Mi ychwanegodd: “Mi ‘roedd fy mhlant yn dweud wrth eu ffrindiau yn yr ysgol bod eu tad nhw wedi bod i dŷ’r Brenin. ‘Dwi’n gobeithio fyddan nhw’n falch yn y dyfodol o be’ ‘dwi wedi’i gyflawni.”
Wedi iddo ystyried yn ofalus, mae Rhingyll Smith wedi penderfynu peidio â chynnal gemau pêl-droed elusennol ar ôl eleni.
Mi ychwanegodd: “’Dydy o heb fod yn benderfyniad rhwydd, ond mae’n cymryd llawer o f’amser personol, ac efo babi newydd ar y ffordd, ‘dwi wedi penderfynu cymryd cam yn ôl a blaenoriaethu fy nheulu am rŵan.”