Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 50 oed wnaeth fwrglera tŷ dynes oedrannus ac yna dianc o’r wlad wedi ei garcharu.
Mi ymddangosodd Peter Jason Lee, heb gyfeiriad sefydlog, yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, dydd Mercher 21 Mai, ar ôl cyfaddef byrgleriaeth â thrais.
Mae hyn yn dilyn dedfrydau Billie Jo Kane, 27 oed, heb gyfeiriad sefydlog, ac Ieuan Parry 28 oed, o Lanbabo, Rhosgoch yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 27 Chwefror am eu rhan yn y digwyddiad.
Yn ystod gyda’r nos 23 Hydref 2023, mi orfododd Lee a Kane eu ffordd i fewn i gartref dynes 83 oed ger Brynteg, Ynys Môn.
Mi ysbeiliodd y lladron gartref y ddynes oedrannus, yn mynnu arian ac yn tollti cannydd ar ddodrefn.
Mi ddatgysylltodd Kane ei llinell ffôn hefyd, er mwyn ei hatal rhag galw am help.
Mi barhaodd Lee fygwth a gwthio’r ddynes cyn cymryd arian parod, goriadau car ac eitemau personol, gan gynnwys lluniau o ddiweddar fab a gŵr y dioddefwr.
Yn dilyn y digwyddiad, mi gafodd yr heddlu hyd i’r car a gafodd ei ddefnyddio’n ystod y fyrgleriaeth, wedi’i gladdu ar dir fferm yn Llandyfrydog. Mi gafodd ei adfer yn ddiweddarach gan yr heddlu.
Ym mis Mehefin 2024, wrth i’r ymchwiliad barhau, mi wnaeth Kane a Lee ddianc i Iwerddon.
Mi gafwyd hyd i Kane ac yna’i gyhuddo ym mis Medi 2024, cyn i Lee gael ei arestio a’i gyhuddo’n ddiweddarach ym mis Tachwedd 2024.
Mi gafodd Peter Lee ei garcharu am dair blynedd.
Mi gyfaddefodd Billi Jo Kane y fyrgleriaeth o flaen llaw, ac mi gafodd ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis.
Mi gyfaddefodd Ieuan Parry i helpu troseddwr, ac mi gafodd ddedfryd o 16 mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 18 mis.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Richard Griffith: “Mae carchariad Lee yn ganlyniad ymchwiliad rhagorol, sydd wedi dod â’r diffynyddion o flaen eu gwell am drosedd ofnadwy, oedd wedi targedu dynes oedrannau a bregus yn ei chartref ei hun.
“Mi gymerodd Lee a Kane eitemau o werth personol mawr oedd yn amhrisiadwy i’r dioddefwr. Yn anffodus, dydy’r rhain byth wedi’u hadfer.
“Ni allwn danbrisio gweithredoedd Kane, ac er na fydd unrhyw ddedfryd yn adlewyrchu’r trawma parhaol mae’r dioddefwr yn ei brofi, ‘dwi’n cymeradwyo ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad.”