Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae dyn 29 oed wedi cael ei garcharu am dagu ei gyn-bartner.
Ymosododd Sam Tromellen o Stryd y Berwyn, Llangynog, Croesoswallt, ar y dioddefwr tra roedd y pâr ar wyliau yn Aberdyfi, Gwynedd ym mis Hydref y llynedd.
Yn dilyn ffrae yn eu hystafell ar ôl i Tromellen gyhuddo'r dioddefwr o fod yn anffyddlon, rhoddodd ei fraich o amgylch ei gwddf, gan gyfyngu ei gallu i anadlu.
Yn y pen draw, mi wnaeth ei gollwng ac mi wnaeth hi ffoi o'r adeilad, ond dilynodd Tromellen hi a pharhau â'r ffrae ar y stryd.
Ymyrrodd rhywun lleol a welodd y digwyddiad a galw'r heddlu, cyn cynnig lloches i'r ferch.
Wrth i Tromellen adael yr ardal, ciciodd ddrws cyfagos cyn rhwygo ei grys i ffwrdd.
Cafodd ei arestio wedyn yn oriau mân dydd Sadwrn, 12 Hydref yn dilyn y digwyddiad y noson honno.
Mewn datganiad wedi'i baratoi, mi wnaeth feio'r digwyddiad ar y dioddefwr, gan honni ei fod wedi ceisio ei hatal rhag ymosod arno.
Yn ddiweddarach, cyfaddefodd ei fod wedi ei thagu'n fwriadol, cyfaddefodd hefyd i ddau gyhuddiad o ddifrod troseddol a bod â chanabis yn ei feddiant.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, 1 Mai, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a thri mis.
Cafodd hefyd orchymyn atal am bum mlynedd er mwyn diogelu'r dioddefwr.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Gutun Lake: "Ni fydd trais o unrhyw fath yn erbyn merched a genethod yn cael ei oddef yn ein cymunedau.
"Roedd yr ymosodiad hwn yn brofiad brawychus i'r dioddefwr, yn ystod ei gwyliau yn yr ardal. Mae hi wedi dangos cryn ddewrder yn riportio'r hyn a ddigwyddodd iddi.
"Rydym yn parhau i weithredu ar unrhyw adroddiad o drais yn erbyn merched a genethod, ac ni fyddwn yn stopio yn ein hymdrechion i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."