Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes 52 oed wedi cael ei charcharu am lofruddio ei phartner, Marcin Koziol.
Lladdodd Joanna Wronska, o Bentre Gwyn ym Mharc Caia, ei phartner drwy ei drywanu yn ei galon.
Honnodd ei fod wedi anafu ei hun wrth geisio cyflawni hunanladdiad.
Ond gwelodd y rheithgor drwy ei chelwyddau a'i chael yn euog o lofruddiaeth ar ôl llai na 90 munud o drafod, yn dilyn achos naw diwrnod yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis diwethaf.
Cafodd ei dedfrydu i garchar am oes, gyda thymor lleiaf o 16 o flynyddoedd.
Ychydig cyn 6.15pm ar 23 Hydref 2023, derbyniodd yr heddlu alwad gan Wronska, a ddywedodd wrth swyddogion fod gan Marcin gyllell.
Cyrhaeddodd swyddogion eu cartref lle'r oedd Marcin yn gorwedd yn y gwely gydag anaf i'w frest. Ni ddarganfuwyd cyllell yn yr ystafell.
Galwyd parafeddygon ond nid oedd modd achub ei fywyd.
Dywedodd Wronska wrth swyddogion eu bod gyda'i gilydd yn eu cartref ac nad oedd dim wedi digwydd cyn y digwyddiad. Honnodd ei bod wedi dod o hyd iddo yn gorwedd ar y gwely, yn waed i gyd, a'i fod wedi gofyn iddi alw am ambiwlans.
Cafodd ei harestio'r noson honno ar amheuaeth o lofruddio.
Ar ôl chwilio yn y tŷ, darganfuwyd cyllell lân, yn cyfateb i fesuriadau'r anaf, yn sinc y gegin.
Yn ddiweddarach, daeth swyddogion o hyd i olion gwaed o gwmpas y sinc a thapiau'r ystafell ymolchi, a gwelwyd Wronska yn sychu ei dwylo wrth i'r heddlu gyrraedd.
Dywedodd yn ystod yr achos ei fod wedi trywanu ei hun, ond roedd gan y patholegydd a gynhaliodd y post-mortem amheuon sut y gallai dyn llaw dde achosi clwyf i'w frest ei hunan ar ongl o'r fath, a chyda grym mor eithafol i dorri tair asen – gan dorri un yn llwyr.
Credir i Wronska drywanu ei phartner yn ei thymer pan yn feddw.
Wrth siarad yn dilyn y ddedfryd heddiw, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Eleri Thomas: "Daeth Joanna Wronska â bywyd Marcin Koziol i ben yn ddisynnwyr ac yn ddiangen - er ei bod yn honni ei bod hi'n ei garu.
"Roedd yn ymosodiad creulon a threisgar ar ddyn a oedd wedi ceisio cefnogaeth ganddi.
"Yna, ceisiodd Wronska guddio ei throsedd a thwyllo'r heddlu trwy honni bod Marcin wedi lladd ei hun, gan achosi trawma i'w deulu, gyda rhai ohonynt wedi gorfod rhoi tystiolaeth yn y llys, ac yna wedi gorfod gwrando ar ei chelwyddau trwy gydol yr achos.
"Mae'r gwaith trylwyr a diwyd gan y tîm ymchwilio wedi helpu'r rheithgor i weld trwy ei chelwyddau a sicrhau cyfiawnder i deulu Marcin.
"Diolch i bawb a ddaeth ymlaen i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad, gan gynnwys yr ymatebwyr cyntaf a geisiodd achub ei fywyd.
"Ni chawn wybod beth wnaeth yrru Wronska i ddod â bywyd Marcin i ben, ond rwy'n gobeithio bod y canlyniad heddiw yn dod â rhywfaint o gysur i'w deulu."