Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae saith aelod o grŵp troseddau trefnedig a oedd yn cyflenwi cyffuriau o'r Rhyl ar draws Sir Ddinbych a Chonwy wedi cael eu carcharu heddiw am gyfanswm o bron i 32 mlynedd.
Ym mis Hydref 2024, gweithredodd dros 90 o swyddogion o bob rhan o ardal yr heddlu ac Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol y Gogledd Orllewin (ROCU) ddiwrnod cyrch cydlynol lle'r oedd wyth gwarant yn targedu cyfeiriadau amrywiol ledled Gogledd Cymru.
Arweiniodd y diwrnod gweithredu at wyth dyn yn cael eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Cafodd llawer iawn o gyffuriau ac arian parod eu hatafaelu ynghyd ag arfau amrywiol, gan gynnwys machete.
Daeth hyn yn dilyn ymchwiliad chwe mis o hyd o'r enw Ymgyrch Combustion i gynllwyn cyflenwi cocên, heroin, crac cocên a chanabis ar draws Sir Ddinbych a Chonwy rhwng mis Medi 2023 a mis Hydref 2024.
Ymddangosodd saith aelod o'r grwp troseddau trefnedig yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, dydd Iau 22 Mai.
Am gynllwynio i gyflenwi cocên, heroin a chetamin, mi roddodd y barnwr y dedfrydau canlynol:
Alex Coxon, 27, o Rhys Avenue, Bae Cinmel – wyth mlynedd.
David Ryan Jones, 29, o Aquarium Crescent, Y Rhyl – saith mlynedd, tri mis.
Cameron Moule, 29, of Ffordd Cefndy, Y Rhyl – chwe blynedd
McCorley Chamberlain, 28, o Henllan Place, Dinbych – chwe blynedd
Jamie Lawrence, 34, o Faesgwyn, Bae Cinmel – pedair blynedd, wyth mis.
Dedfrydwyd Kevin Harrop, 29, o Ffordd Glan y Môr, Bae Penrhyn a William Coxon, 59, o Rhys Avenue, Bae Cinmel i ddwy flynedd yn y carchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Cyfaddefodd wythfed dyn, James Higham, 39, o Rodfa Penrhyn, Prestatyn, i'r troseddau yn flaenorol a chafodd ei garcharu am wyth mis yn Llys y Goron Caernarfon ar 31 Mawrth.
Ym mis Mai 2024, arestiwyd Macauley Wood, 28, o Glascoed Avenue, Bae Cinmel, yn dilyn gwarant cyffuriau ym Mae Cinmel. Cafodd ffôn symudol ei atafaelu wrth chwilio'r cyfeiriad a arweiniodd swyddogion i ddarganfod y llinell Tommo.
Cafodd Wood ei ddedfrydu i 27 mis o garchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 1 Awst 2024 am fod yn ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin.
Gwnaeth ymchwiliadau i linell Tommo adnabod aelodau eraill o'r grŵp.
Roedd Alex Coxon yn arwain y llinell Tommo tra bod ei dad, William Coxon, yn gwyngalchu arian cyffuriau fel rhan o'r grŵp.
Roedd Alex Coxon hefyd yn gweithredu fel dosbarthwr cyffuriau i David Jones, a oedd yn ei dro yn cyflenwi cyffuriau i bobl eraill.
Roedd James Lawrence, McCorley Chamberlain a Cameron Moule yn ymwneud â gwerthu i ddefnyddwyr ar y stryd.
Ym mis Gorffennaf 2024, daethpwyd o hyd i sawl mil o bunnoedd o gocên a heroin yn sied cyfeiriad Cameron Moule.
Y mis canlynol, atafaelwyd dros gilogram o gyffuriau dosbarth A a dros £7000 mewn arian parod o flwch trydan yng ngardd cymydog Coxon.
O ganlyniad i ymchwiliad hir, cyflawnodd swyddogion sawl cyrch yng nghyfeiriadau aelodau'r gang ym mis Hydref 2024.
Wrth siarad ar ôl ei ddedfrydu, dywedodd Ditectif Gwnstabl Chris Wynne o'r Tîm Troseddau Blaenoriaethol yr Ardal Ganolog: "Hoffwn fynegi fy niolch i'r gymuned am eu help yn ystod ein hymchwiliad ni. 'Da ni wedi ymrwymo gwneud Gogledd Cymru'n amgylchfyd gelyniaethus i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn troseddu trefnedig.
"'Da ni'n benderfynol o ddod â phobl sy'n dod â gofid i drefi a phentrefi Gogledd Cymru o flaen eu gwell."
Fe ychwanegodd Prif Uwcharolygydd Owain Llewellyn: "Mae'r ddedfryd hon yn adlewyrchu'r gwaith rhagorol a wnaed gan ein tîm plismona lleol ni.
"Trwy gydol yr ymchwiliad 'da ni wedi cael help mawr gan y gymuned, a oedd wedi blino ar weld yr unigolion hyn yn arddangos cyfoeth a gafwyd yn droseddol ac yn creu ofn ar strydoedd y Rhyl ac ardaloedd ehangach.
"'Da ni wedi ymrwymo i'n brwydr yn erbyn troseddau trefnedig ledled Gogledd Cymru a byddwn yn ymateb yn gadarn i gudd-wybodaeth gymunedol."
Anogir unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am gyflenwi cyffuriau yng Ngogledd Cymru gysylltu hefo'r heddlu drwy ein gwefan ni, drwy ffonio 101, neu'n ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.