Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 34 oed wedi cael ei ddyfarnu'n euog o lofruddio Catherine Flynn a oedd yn 69 oed.
Cafwyd Dean Mears, o Rodfa Bodelwyddan, Bae Cinmel, yn euog heddiw (15 Mai) gan reithgor yn dilyn achos tair wythnos o hyd yn Llys y Goron Caernarfon. Bydd Mears yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Gwener, 20 Mehefin.
Wrth siarad ar ôl i'r rheithgor gyflwyno ei ddyfarniad, dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Uwch-arolygydd Lee Boycott: "Ar 24 Hydref 2024, torrodd Dean Mears i mewn i gartref Cathy Flynn tra roedd hi'n cysgu, gan ymosod arni’n dreisgar.
“Nid oedd modd i Cathy oroesi ei hanafiadau a bu farw’r diwrnod canlynol yn yr ysbyty.
Gwelwyd ei weithredoedd ffiaidd y noson honno gan ferch Cathy ar gamera cloch ei drws ffrynt, a bydd y profiad hynny yn aros gyda hi a’i theulu am byth.
Er nad yw Mears yn dangos mymryn o edifeirwch am ei weithredoedd, mae teulu Cathy wedi parhau i fod yn urddasol ac yn barchus drwy gydol y broses farnwrol. Rwy'n eu canmol am eu dewrder ac yn meddwl amdanynt heddiw.
Rwy'n croesawu'r dyfarniad heddiw ac yn diolch i'r rheithgor, a'r tîm ymchwilio, am eu gwaith diwyd wrth sicrhau cyfiawnder i deulu Cathy.