Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty efo anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaernarfon bore ddoe.
Toc wedi 11am ar ddydd Mawrth , 6 Mai, mi ymatebodd y gwasanaethau brys i wrthdrawiad yn ymwneud â dau gerbyd ar yr A4871.
Mi gludwyd dyn i’r ysbyty efo anafiadau wnaiff newid ei fywyd.
Mi arestiwyd dyn 43 oed mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae eisoes wedi ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Dywedodd Rhingyll Katie Davies: “’Dwi’n apelio ar unrhyw un wnaeth weld y digwyddiad ac heb siarad efo ni’n barod i gysylltu efo ni.
“Ar ben hynny, ‘dwi’n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A4871 o gwmpas adeg y gwrthdrawiad a sydd efo fideo camera cerbyd i gysylltu efo’r heddlu.
“Mae ymchwiliadau i’r gwrthdrawiad ar y gweill ac mi fuaswn i’n annog unrhyw un efo gwybodaeth allai helpu ein ymholiadau i gysylltu efo’r heddlu.”
Dylai unrhyw un efo gwybodaeth allai helpu ymchwiliadau’r heddlu gysylltu efo ni drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod C064663.