Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o swyddogion heddlu Wrecsam wedi siarad yn onest am yr effaith gadarnhaol y mae dysgu iaith arwyddion wedi'i chael ar ei bywyd personol a phroffesiynol.
Daw hyn fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sy'n dechrau heddiw (dydd Llun, 17 Mawrth), dathliad blynyddol o BSL a'r gymuned fyddar, a gynhelir i gydnabod BSL fel iaith swyddogol ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth, addysg a chynwysoldeb.
Roedd Cwnstabl Danielle Fleming yn 16 oed pan oedd y bws yr oedd hi'n teithio arno wedi torri i lawr, gan adael cwpl oedrannus yr oedd hi'n eistedd gyferbyn mewn trafferthion.
“Roeddwn i'n gallu gweld eu bod nhw'n arwyddo, ond doeddwn i ddim wir yn ei ddeall ar y pryd," meddai PC Fleming.
"Es i adref y noson honno, ac roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy nad oeddwn i wedi gallu eu helpu.
"Dwi wrth fy modd yn edrych ar ôl pobl, mae wastad wedi bod yn fy natur."
Wedi’r profiad hwn, gwnaeth dipyn o ymchwil a chofrestrodd ar gwrs iaith arwyddo, a derbyn cymhwyster BSL lefel 1.
Ychwanegodd PC Fleming, sydd bellach yn 37 oed: "Roeddwn y cwrs yn ddiddorol, ac roeddwn i eisiau dysgu mwy a mwy."
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ymunodd â Heddlu Gogledd Cymru - breuddwyd yr oedd wedi gweithio'n galed i’w wireddu.
"Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i ymuno â'r heddlu," meddai.
"Doeddwn i ddim wir wedi cael fy magu gyda disgwyliad i fynd i'r brifysgol. Y disgwyl oedd mynd i'r ysgol, mynd i'r coleg a mynd i gael swydd".
"Ond roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau torri'r patrwm hwnnw a dilyn fy mreuddwyd.”
O fewn ei hwythnos gyntaf fel swyddog, roedd hi'n cynorthwyo gyda'r chwilio am ddyn a oedd yn eisiau gan yr heddlu ac a oedd yn cuddio mewn fflat a oedd yn eiddo i ddyn hynod fyddar.
"Pan gyrhaeddon ni yno, agorodd y perchennog y drws, ond roedd swyddogion yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu ag e," ychwanegodd.
"Dywedais wrthyn nhw fy mod i'n gallu arwyddo, felly es i siarad ag e i esbonio pam ein bod ni yno.
"O'r diwrnod hwnnw ymlaen, ches i erioed unrhyw broblemau gyda'r dyn hwnnw eto, oherwydd roedd yn gwybod fy mod i'n ceisio fy ngorau i gyfathrebu ag ef drwy BSL - roedd hynny mor werth chweil."
Ychydig a wyddai y byddai ei sgiliau BSL yn ei helpu fel heddwas yn ogystal â'i galluogi yn y pen draw i gyfathrebu â'i mab dwy a hanner oed sydd yn awtistig.
"Roedd methu cyfathrebu gydag e ar lafar yn anodd," cyfaddefodd.
"Oni bai bod gennych chi rywun sy'n agos atoch chi ag awtistiaeth, mae'n anodd deall yn iawn pa mor heriol mae'n gallu bod.
"Un diwrnod, dechreuais arwyddo gydag ef i weld a fyddai'n dysgu unrhyw beth. Dechreuais wneud gemau bach gydag ef, a thra'r oeddem yn chwarae, byddwn yn gofyn iddo a oedd yn hapus neu'n drist, ac mi wnaeth hynny dynnu ei sylw, doedd e ddim yn edrych i fy llygaid cyn hynny.
"Dyw e ddim yn hoffi tyrfaoedd mawr o bobl neu mynd i wahanol lefydd, ac ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, roedden ni allan, ac fe ddechreuodd arwyddo rhywbeth i fi.
"Gofynnais iddo beth oedd o'i le, ac fe arwyddodd bod y sŵn ychydig yn uchel iddo. Y diwrnod hwnnw, roedd ei ymddygiad a'i ymateb yn wahanol i'r hyn a fu erioed o'r blaen.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu ei fod wedi gweithio. Felly, dechreuais ddysgu ychydig yn fwy na'r hyn roeddwn i wedi'i ddysgu ar y cwrs, a gyda'n gilydd fe ddysgon ni fwy o arwyddion a oedd yn ei helpu i gyfathrebu hyd yn oed yn fwy.
"Roedd yn teimlo bod ganddo lais drwy arwyddo. Mae bellach yn wyth oed, ac rydym yn dal i arwyddo hyd heddiw yn ein ffordd fach ni ein hunain."
Bellach yn swyddog lleihau galw, mae PC Fleming yn parhau i hyrwyddo BSL yn ei gwaith ac yn ei ddefnyddio fel modd o gyfathrebu gydag unrhyw un sydd â nam ar y synhwyrau sy'n dod mewn cysylltiad â'r heddlu yn y ddinas.
Mae hi hefyd wedi ymuno â chôr Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddar i sicrhau bod modd cynnwys unrhyw un sydd â nam ar y synhwyrau yn eu perfformiadau.
"Alla i ddim canu, dwi'n swnio fel cath, ond ro'n i wir wrth fy modd efo'r syniad y tu ôl iddo," meddai. "Mae unrhyw arian sy'n cael ei godi drwy'r côr yn mynd i elusen leol, sy'n anhygoel, felly ymunais i.
"Ac yna meddyliais sut y gallwn ddefnyddio fy sgiliau i gefnogi'r rhai sy'n dod i weld y côr a allai fod â nam ar eu synhwyrau.
"Felly, mi wnes i ymarfer gymaint ag y gallwn i a nawr, gallaf arwyddo un o'r caneuon yn llawn."
Yn dilyn ei pherfformiad cyntaf adeg y Nadolig, ychwanegodd: "Daeth pobl i fyny ata i wedyn a diolch i mi.
"Fe wnaeth i mi sylweddoli bod hyd yn oed y rhai sydd heb golli eu clyw yn dal i fwynhau agwedd weledol arwyddo, felly mae’n rhywbeth i bawb.
"Dydw i ddim yn arbenigwr ar arwyddo, ond dw i’n dysgu.”
Mewn neges i'r gymuned fyddar, dywedodd PC Fleming: "Rydyn ni yma i chi hefyd. Peidiwch â bod ag ofn dod i siarad â ni ac rydym yn darparu ar gyfer anghenion unrhyw un.
"Ac os oes unrhyw un sy'n fy ngweld i'n arwyddo ac yn meddwl y gallan nhw fy helpu i wella, dewch i ddysgu fi er mwyn i mi allu helpu hyd yn oed mwy o bobl."
Gall unrhyw un sy'n ceisio cymorth gyda BSL gysylltu â'r Rhwydwaith Cymorth i’r Byddar ar eu gwefan yma: About - dsn