Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymdriniaeth amlasiantaeth er mwyn trechu troseddau difrifol a threfnedig ym Mangor wedi’i lansio.
Adnewyddu Bangor ydy’r fenter Hel Dal Cryfhau ddiweddaraf yng Ngogledd Cymru, wedi’i lansio yn dilyn llwyddiant y prosiect yn y Rhyl llynedd, a welodd ostyngiad o 14% mewn troseddau wedi’u cofnodi.
O heddiw ymlaen, mi fydd tîm penodol o swyddogion yn cynnal patrolau amlwg ar y stryd fawr ac ardaloedd sy’n peri pryder, yn ogystal ag ymgysylltu efo busnesau lleol ynglŷn â’r problemau maen nhw’n wynebu yn y ddinas.
Mi fydd partneriaid yn cydweithio er mwyn ymdrin efo problemau allweddol a nodwyd gan y gymuned leol, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed alcohol ar y stryd a thrais rhywiol.
Mi fydd y bartneriaeth amlasiantaeth, sy’n seiliedig ar y fenter “Hel Dal Cryfhau” sydd wedi’i llunio gan y Swyddfa Gartref, yn gweld cyfuniad o ymgyrchoedd heddlu amlwg a phenodol a thactegau plismona cudd, ochr yn ochr â gweithgaredd a chefnogaeth gan bartneriaid, a mewnbwn gan breswylwyr, er mwyn gwarchod ein cymunedau ni ac atal gweithgareddau grwpiau troseddau trefnedig.
Mae partneriaid yn cynnwys:
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ardal, Arwel Hughes: “Mae Bangor yn ardal wych, ac yn un mae’r gymuned yn falch o fyw a gweithio ynddi ac ymweld â hi.
“Mae adborth gan breswylwyr wedi dangos i mi y bydd ymdriniaeth fwy cadarn ar gyfer atal a threchu troseddau difrifol a threfnedig yn cael croeso, er mwyn dod â newid cadarnhaol i’r ddinas.”
Yr ardaloedd o dan sylw sydd wedi’u nodi ydy Stryd Fawr Bangor, Maesgeirchen a Hirael, efo’r nod o leihau troseddau a’r ofn o droseddau.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Hughes: “Mae’r gymuned wrth galon y prosiect hwn. Mi wnawn ni barhau gwrando ar bob pryder a phroblem, a gweithio efo’n gilydd er mwyn trechu trosedd sy’n cael effaith niweidiol ar breswylwyr.
“’Da ni wedi gweithio efo ysgol gynradd leol yn barod, er mwyn dylunio logo newydd. ‘Dwi’n gobeithio fydd o’n cael ei rannu a’i adnabod yn eang.
“’Da ni’n gweithio’n agos efo partneriaid er mwyn ymyrryd ar rwydweithiau troseddol sy’n peri perygl sylweddol, yn ogystal â chymryd camau er mwyn lleihau’r ofn o droseddau. ‘Dwi’n obeithiol ynglŷn â’r hyn allwn ni gyflawni efo’n gilydd, a ‘dwi’n ddiolchgar am yr help a’r ymatebion cadarnhaol ‘da ni wedi’u derbyn hyd yn hyn.”
Dylai unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn â throseddau difrifol a threfnedig yn eu hardal nhw gysylltu efo’r heddlu drwy ein gwefan ni, drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy Crimestoppers.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r fenter Hel Dal Cryfhau ar gael ar ein gwefan ni.