Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wnaeth anelu dryll tanio ffug at ddau unigolyn yn y stryd wedi cael ei garcharu.
Mi ymddangosodd Mark Griffiths, o Lôn Helen, Caernarfon yn Llys y Goron, yr Wyddgrug, heddiw 11 Mawrth, ar ôl cyfaddef meddu dryll tanio ffug efo’r bwriad o achosi ofn o drais.
Ar 15 Medi 2024, mi ‘roedd y dyn 29 oed yn ardal Lôn y Bron yng Nghaernarfon, lle mi anelodd bistol ffug tuag at ddyn arall a’i fam yn dilyn ffrae, yn achosi iddyn nhw ofni am eu bywydau.
Yna, mi wnaeth Griffiths, a adnabyddir yn lleol fel Mark Fango, droi a cherdded i ffwrdd i’w fflat.
Mi ddaeth swyddogion heddlu arfog i’r ardal yn fuan wedyn a’i arestio.
Mi gafodd ei garcharu am bedair blynedd a chwe mis. Hefyd, mi dderbyniodd orchymyn atal pum mlynedd, yn ei atal rhag cysylltu efo’r dioddefwyr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Saran Henderson: “Mi ‘roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus, nid yn unig i’r dioddefwyr oedd Griffiths wedi anelu’r dryll tanio tuag atyn nhw, ond hefyd y gymuned ehangach.
“Mi gaiff hyn effaith barhaus ar breswylwyr Caernarfon, yn enwedig y plant oedd yn dystion i’r digwyddiad.
“Mi fuaswn i’n annog unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn â’r rhai sy’n cario arfau, neu arfau ffug yn gyhoeddus, gysylltu efo’r heddlu neu’n ddienw drwy Crimestoppers.”