Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn gyflawnodd fyrgleriaeth mewn tŷ cwpwl tra ‘roedden nhw ar eu gwyliau wedi ei garcharu.
Mi ymddangosodd Mark Anthony Goodier, 36 oed, o Landdaniel, Gaerwen, yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Mawrth, 18 Mawrth, ar ôl cyfaddef i ddau drosedd o fyrgleriaeth a thrafod nwyddau wedi’u dwyn.
Yn ystod nos Iau, 19 Rhagfyr 2024, mi dorrodd Goodier i fewn i gartref ar Ffordd yr Orsaf, Llanberis, tra ‘roedd y teulu i ffwrdd ar wyliau.
Mi wnaeth chwilota drwy’r tŷ, gan ddwyn nifer o eitemau gwerthfawr a char y teulu.
Yn hwyrach ymlaen, yn ystod oriau mân dydd Gwener, 20 Rhagfyr, mi geisiodd Goodier gael mynediad i adeilad busnes ar Stryd y Farchnad, drwy ddifrodi’r system larwm a phanel gwydr mewn drws. Ni chafodd eiddo ei ddwyn.
Mi gafodd Goodier ei garcharu am ddwy flynedd a phum mis.
Mi dderbyniodd hefyd orchymyn atal, er mwyn gwarchod y dioddefwyr, sy’n para 10 mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Will Leon-Portillo: “Mi ‘roedd hwn yn brofiad hynod o boenus i’r dioddefwyr, a’u cartref wedi’i chwilota tra ‘roedden nhw i ffwrdd ar wyliau.
“Mae’r digwyddiad hwn wedi cael effaith ddifrifol arnyn nhw, ac wedi eu gadael yn teimlo’n anniogel yn eu cartref eu hunain, yn ogystal â cholli nifer o eitemau o werth personol.
“Ni allai unrhyw ddedfryd ddadwneud niwed gweithrediadau Goodier, ond ‘dwi’n gobeithio ein bod ni’n tawelu meddwl y cyhoedd drwy barhau i weithio’n ddi-baid er mwyn gwarchod diogelwch ein cymunedau ni.”