Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn gafodd ei ddal efo cannoedd ar filoedd o luniau anweddus heddiw wedi’i garcharu.
Ym mis Mehefin 2023, mi gafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod am lun anweddus oedd wedi’i lwytho ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn ymchwiliadau, mi gafodd Paul Roberts, 68 oed, o ardal Bontnewydd, Caernarfon, ei arestio.
Ar ôl dadansoddi teclynnau digidol Roberts, mi ddatgelwyd ei fod wedi storio cannoedd ar filoedd o luniau anweddus ac eithafol, efo llawer yn cynnwys plant.
Mi gyhuddwyd Roberts efo creu lluniau / lluniau ffug anweddus o blentyn, meddu llun gwaharddedig o blentyn, meddu llun pornograffig eithafol / lluniau yn dangos gweithrediadau sy’n debygol o achosi anaf difrifol i rannau preifat unigolyn, meddu llun pornograffig eithafol / lluniau’n dangos y weithred o gyfathrach / cyfathrach eneuol efo anifail byw / marw, ac, am y tro cyntaf i Heddlu Gogledd Cymru, meddu “Llawlyfr Pedoffeil”.
Mi blediodd Roberts yn euog i’r cyhuddiadau, ac heddiw yn Llys y Goron Caernarfon, mi dderbyniodd ddedfryd o’r uchafswm o 3 mlynedd a 6 mis.
Yn siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Amit Patel: “Mi ‘roedd hwn yn achos arbennig o bryderus, ac ‘roedd y nifer o luniau anweddus wedi’u storio gan Roberts yn hollol ddiamgyffred.
“Mae troseddwyr sy’n cyflawni’r math yma o drosedd yn aml yn credu na wnawn nhw ddenu sylw. Fodd bynnag, mae’r achos hwn yn rybudd ein bod ni’n erlid unrhyw un sy’n ymwneud â’r math hyn o ymddygiad ffiaidd yn ddi-baid.”