Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, fe wnaethon ni siarad hefo sawl merch am eu cyfraniad nhw i Heddlu Gogledd Cymru.
Ditectif Arolygydd Sophie Ho, PVPU
Helo, Sophie dwi...
Dwi wedi gweithio i Heddlu Gogledd Cymru ers blwyddyn bellach. Dwi’n hoff o herio fy hun ac mae hyn yn adlewyrchu yn fy ngyrfa. Dwi wedi gweithio yn y Ganolfan Cyfathrebu, Tîm Troseddau Blaenoriaethol, CID, Plismona Ymateb ac yn olaf, fel Rhingyll Cynorthwyol. Dwi’n Swyddog Uned Cefnogi’r Heddlu, wedi fy hyfforddi i ddefnyddio Taser ac i fod yn gallu trafod digwyddiadau allweddol. Mae bod yn rhan o dîm ymateb yn agos iawn at fy nghanol, yn enwedig ar ôl gweithio hefo tîm o swyddogion talentog yn Ardal Wrecsam Wledig.
Mae gofalu a datblygu hyder cydweithwyr yn bwysig iawn i mi. Dwi’n cael boddhad o weld y rhai dwi wedi eu cefnogi yn cyflawni yn fwy na fy llwyddiant fy hun! Dwi’n grediniol bod rhaid rhoi cyfle i ddioddefwyr troseddau gael llais. Dw i hefyd yn grediniol mai fi ddylai fod y llais hwnnw pan nad ydynt yn gallu mynegi eu hunain. Mae hwn yn rhan hanfodol o’r swydd.
Rwy’n hynod angerddol wrth ymchwilio i gam-drin domestig a grymuso plant a’r rhai mwyaf bregus o fewn cymdeithas. Fe wnes i gyflwyno sesiynau codi ymwybyddiaeth o gam-driniaeth yn y cartref i gymunedau ac asiantaethau, a sicrhau darparu pecynnau gofal i blant a oedd wedi bod yn dyst i gamdriniaeth. Mae’r angerdd yma yn helpu yn fy rôl bresennol, sy’n fy nghaniatáu i ddylanwadu a siapio’r ffordd mae’r heddlu yn diogelu’r rhai mwy bregus.
Yn ddiweddar dwi wedi dod yn fam am y tro cyntaf, a dw i’n cyfaddef, nes i boeni yn gyntaf sut y buaswn yn gallu gwneud y ddwy swydd. Cefais ddyrchafiad i arolygydd pan oedd fy mabi yn ddim ond naw wythnos oed. Tra bod hyn yn golygu lot fawr o waith caled ac ymrwymiad, mae’n bwysig iawn i mi fy mod yn parhau i ddilyn fy mreuddwydion a bod yn esiampl i fy mhlentyn. Dwi hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli fy nghydweithwyr gan ddangos ei fod yn bosib gwneud o a chael cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd!
Dwi wedi dychwelyd i fy ngwaith yn ddiweddar ar ôl cyfnod mamolaeth a dwi’n awyddus i ddechrau fy ngwaith fel Is-Gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol – rôl dwi wastad wedi bod eisiau ei wneud oherwydd y gallu i gefnogi eraill a siapio newid positif. Dwi’n gyfaill cefnogi mamolaeth a bwydo o’r fron – yn defnyddio fy mhrofiadau personol fy hun i helpu eraill.
Mae’n nhw’n dweud fy mod wastad yn brysur, fy mod yn hynod wydn a bod gen i empathi dwfn. Dwi’n credu mai dyna pam dwi’n mwynhau bod yn Swyddog Heddlu, ac fy hoff rôl – bod yn fam i blentyn bach sydd wastad yn brysur hefyd.
Arolygydd Dros Dro Kate Bithell, OSS MRU / CDIU
Helo – fy enw i yw Kate Bithell a dwi’n Arolygydd Dros Dro hefo’r adran MRU a CDIU.
Dwi wedi gweithio i Heddlu Gogledd Cymru am 18 mlynedd ac wedi gwneud 15 rôl amrywiol megis plismona cymunedol a’r Swyddfa Staff. Rwy’n Swyddog Chwilio Trwyddedig ac wedi cael fy hyfforddi ym maes adnabod dioddefwyr trychinebau.
Dwi’n hynod o falch o fy nhîm a’r gwaith maent yn ei wneud yn cefnogi’r cyhoedd. Mae fy ngwaith yn cynnwys arwain ar berfformiad, lleihau’r galw ar adnoddau rheng flaen, adnabod patrymau troseddu yn gynnar a dioddefwyr cyson gan ddarparu gwasanaeth cyhoeddus da.
Dwi’n angerddol am gefnogi a datblygu staff. Dwi’n ysgrifennydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywedd a dwi’n Bencampwr Lles. Dwi’n trefnu ac yn arwain teithiau cerdded lles yn Eryri.
Rwy’n ymroddedig i yrru a darparu safonau uchel o wasanaeth cyhoeddus a buddsoddi amser i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Derbyniodd fy ngwaith yn diogelu pobl oedrannus gydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Gala ‘Jane’s Police Review.’ Roedd hwn yn waith a gafodd ei wneud mewn ymateb i bryderon gan y gymuned oedrannus ynglŷn â chysylltu hefo’r heddlu, galwyr digroeso ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mi wnaethon ni drefnu sawl digwyddiad cymunedol, gyda chefnogaeth gan bartneriaid er mwyn tawelu meddwl, darparu cyngor a’u cyflwyno i’w timau plismona cymunedol. Fe wnaeth hyn gefnogi ein gweledigaeth er mwyn hybu hyder a ffydd yn yr heddlu. Oherwydd eu llwyddiant cafodd digwyddiadau eu cynnal ar draws y rhanbarth. Cefais i a chydweithiwr arall ein henwebu am wobr Amrywiaeth ar Waith a chawsom yr ail wobr.
Tu allan i’r gwaith dwi’n aelod o Dîm Achub Mynydd (Gogledd Ddwyrain Cymru) ac wedi bod ers 18 mlynedd a dwi hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub (SARDA). Mae gen i Labrador du dwy oed o'r enw Willow a dwi'n trio ei hyfforddi hi fel ci chwilio. Dwi’n mwynhau cerdded y mynyddoedd, tynnu lluniau o’r mynyddoedd a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.
Rhingyll Emma Birrell, Uned Troseddau’r Ffyrdd
Dwi wedi bod yn swyddog yr heddlu ers dros 11 mlynedd, gyda’r rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw yn gweithio mewn adrannau arbenigol.
Ar ôl cwblhau fy nghyfnod prawf yn yr hen orsaf sef y tŵr yn Wrecsam, fel yr oedd cyn ei ddymchwel a chyn i Wrecsam ddod yn ddinas, nes i sylweddoli’n eithaf sydyn mai yn Uned Plismona’r Ffyrdd roedd fy nghalon.
Nes i gwblhau fy nghwrs gyrru uwch yn 2017 ac ymuno ag Uned Plismona’r Ffyrdd fel swyddog, lle cefais anrhydedd am ddewrder ar ôl dilyn pedwar troseddwr a oedd wedi bod yn dwyn. Wedyn fe ymunais a’r Uned ‘Intercept’ pan gafodd ei greu yn 2020 – a bod yn un o’r swyddogion cyntaf yn yr heddlu i gael fy nghymhwyster TPAC ac yna fel cynghorydd tacteg ar gyfer ymlid.
Yn 2022 cefais ddyrchafiad fel Rhingyll a chwblhau hyn o fewn mis ar ôl mynd ar gyfnod mamolaeth, cyn dychwelyd am amser byr i oruchwylio swyddogion yn ardal Wrecsam, ac wedyn dychwelyd i’r uned newydd, Uned Troseddau’r Ffyrdd.
Roedd dod nôl i’r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth yn newid mawr, roedd rhaid addasu i’r arferol newydd o weithio shifftiau llawn amser yn ogystal â bod yn fam, gwraig a pherchennog ceffylau.
Dw i wirioneddol yn mwynhau gweithio fel rhingyll traffig lle nad oes yr un diwrnod yr un fath, a dwi’n cael y gorau o ddau fyd – bod allan ar y ffyrdd a bod yn reolwr llinell. Un diwrnod mi allaf fod yn delio â gwrthdrawiad angheuol ac yn cefnogi teulu, a’r diwrnod wedyn dwi’n defnyddio tactegau TPAC ar rywun sydd yn rhan o grŵp OCG – i gyd tra’n arwain tîm o swyddogion arbenigol dwi’n falch o oruchwylio.
Yn aml, ystyrir plismona arbenigol fel maes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion a dwi’n awyddus i ddangos swyddogion benywaidd ein bod ni’n cael ein cynrychioli ac yn ddigon medrus i ragori yn y maes hwn.
Mae sawl cenhedlaeth o swyddogion yr heddlu yn fy nheulu cyn fi, felly cawn weld os bydd fy mhlentyn yn fy nilyn i faes plismona!