Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r tywydd yn gwella, ac er bod rhai ohonoch yn reidio eich beic modur drwy gydol y flwyddyn, bydd nifer ohonoch yn ysu i ddychwelyd ar y ffyrdd ar ôl i’ch beic fod wedi ei storio dros y gaeaf.
Ar ôl wythnosau neu misoedd heb gael ei ddefnyddio, mae paratoi ar gyfer y tymor beicio modur yn hanfodol er mwyn eich cadw’n ddiogel ar y ffyrdd.
Dyma restr wirio byr y gallwch ei wneud wrth i chi baratoi ar gyfer y tymor:
Gall batris beiciau modur yn aml golli gwefr dros y gaeaf.
Archwiliwch gyflwr y terfynellau a’u glanhau.
Ail-wefrwch y batri neu newidiwch y batri os yw’n hen neu os nad ydio’n dal gwefr.
Gall teiars golli gwasgedd a difetha os nad ydynt yn cael eu defnyddio yn rheolaidd.
Archwiliwch ddyfnder gwadn y teiars ac edrychwch am unrhyw graciau neu ddifrod.
Gwiriwch bwysau’r aer a’i chwythu os oes angen.
Archwiliwch lefel olew, lefel hylif oeri a lefelau hylif brêc. Ychwanegwch os oes angen.
Gall hen betrol ddiraddio ac effeithio ar weithrediad y peiriant.
Ystyriwch newid olew a’r hidlydd os nad ydych wedi’i gwblhau yn ddiweddar.
Checiwch fod y goleuadau blaen, dangosyddion a goleuadau brêc yn gweithio’n iawn, a’u newid os ydynt yn ddiffygiol.
Gall ddirywio, rhydu, cracio a cholli tensiwn os na chaiff ei gynnal yn iawn.
Archwiliwch y gadwyn/gwregys a chywiro’r tensiynau.
Gwnewch yn siŵr nad yw’r sprockets wedi gwisgo.
Sicrhewch fod y gadwyn wedi cael ei iro’n gywir.
Gwnewch yn siŵr bod yr olwynion yn troi’n rhydd ac nad yw’r breciau yn glunu. Gallant gael eu heintio os cânt eu gadael am gyfnod.
Archwiliwch padiau brêc am olion trael, llinellau brêc am ollyngiadau a bod ysgogiadau yn gweithredu’r breciau yn gywir.
Gwiriwch bod llywio profion yn troi’n rhydd, bod y sbardun, llinellau brêc a trawsnewidyddion yn gweithredu’n gywir.
Checiwch fod corn eich beic yn gweithio.
Archwiliwch eich cit yn drylwyr – gall ddiraddio dros amser wrth ei storio.
Archwiliwch eich helmed, menig, esgidiau am gyflwr ac arwyddion o ddifrodi neu ddyddiadau dod i ben.
Cofiwch – gall eich cit arbed eich bywyd mewn gwrthdrawiad.
Er gall hyn ymddangos yn amlwg, gwiriwch bob rhan o’ch beic yn gyflym am arwyddion o ddifrod.
Beth sydd o’i le? A oes unrhyw arwyddion o wisgo gormodol neu ddifrod gweladwy lle na ddylent fod?
Iriad eich ceblau a ‘pivots.’
Archwiliwch y ffrâm a’r amddiffyniad damweiniau.
Mae yna deimlad newydd a chyffrous pan fyddwch chi’n mynd yn ôl ar eich beic ar ôl y gaeaf, i reidio eto a mwynhau’r ymdeimlad o ryddid. Fodd bynnag, a allwch chi ddweud yn onest bod eich sgiliau mor dda â’r tro diwethaf wnaethoch fynd allan ar eich beic fisoedd yn ôl?
Waeth pa mor dda ydych chi, gallwch chi bob amser wella. Felly, rydym yn annog beicwyr modur i feddwl am hyfforddiant pellach er mwyn gwella eu sgiliau drwy raglenni megis Beicio Diogel (BikeSafe) BikeSafe - BikeSafe a Biker Down Motorcycle Safety - Diogelwch ar y ffyrdd - Eich Cadw Chi'n Ddiogel - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru