Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei garcharu am gymryd llun rhywioledig o blentyn.
Mi wnaeth Nicholas Cummins, 39 oed, o Hafan Glyd, Shotton, gymryd lluniau o’r plentyn rhannol noeth mewn safle cyn ysbyty wag yn Ninbych. Mi ddywedodd wrthi bod y lluniau’n mynd i gael eu defnyddio er mwyn ennill cystadleuaeth.
Yn dilyn ymchwiliadau gan yr heddlu, mi ddarganfu bod ganddo dros 8,000 o luniau anweddus o blant ar ei declynnau, gan gynnwys lluniau o ddau ddioddefwr arall.
Er ei fod wedi cyfaddef creu’r lluniau anweddus, mi wadodd annog plentyn i ymwneud â gweithgaredd rhywiol, ond mi gafodd ei euogfarnu gan reithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Ionawr.
Mi ymddangosodd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Llun, 10 Mawrth, lle gafodd ei garcharu am chwe blynedd, yn ogystal â chyfnod o 18 mis ar drwydded.
Mi wnaiff Cummins gyflawni dau draean o’i ddedfryd yn y carchar cyn caiff ei gyfeirio at y Bwrdd Parôl, ac mi fydd rhaid iddo gydymffurfio efo gofynion y gofrestr troseddwyr rhywiol. Mi dderbyniodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol penagored.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Catrin-Mai Jones o Dîm Gwarchod Plant y Rhanbarth Canolog: “’Dwi’n cymeradwyo dewrder y dioddefwr wrth hysbysu’r heddlu, ac am ei chefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad.
“Ni wnaeth Cummins ddangos edifeirwch, emosiwn na dealltwriaeth o’r effaith parhaus ar y dioddefwr, sydd wedi bod yn sylweddol.
“Mae’r canlyniad hwn yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddod â throseddwyr rhywiol o flaen eu gwell, a sicrhau bod dioddefwyr a phlant efo llais ac yn cael eu gwarchod.
“’Dwi’n gobeithio fydd yr achos hwn yn annog eraill sydd wedi dioddef trosedd rhywiol i ddod atom ni, ac ei fod yn atgoffa unrhyw droseddwyr sy’n cyflawni’r troseddau ffiaidd hyn, y bydden nhw’n wynebu canlyniadau eu gweithrediadau – waeth sut na phryd wnaeth y drosedd rhywiol ddigwydd.”