Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwn gadarnhau bod dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam.
Bu farw'r ddynes 47 oed o ardal Wrecsam yn yr ysbyty ddydd Mercher, 26 Mawrth, ar ôl cael anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn Hightown ychydig ar ôl 9.30pm ddydd Llun, 24 Mawrth.
Mae ei theulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Belgrave Road a Percey Road, wrth i gar Mercedes arian yrru i ffwrdd oddi wrth yr heddlu gan daro car Toyota.
Cafodd y teithwyr yn y Toyota, sef dyn a'r ddynes 47 oed, eu trosglwyddo i ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol, lle bu farw'r ddynes yn ddiweddarach.
Mae'r dyn yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau a fydd yn newid ei fywyd.
Gadawodd dau ddyn, y gyrrwr a'r teithiwr yn y Mercedes, leoliad y digwyddiad.
Cafodd pump o bobl eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ddoe, dydd Iau, 27 Mawrth.
Cafodd dyn 22 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, tra bod ymchwiliadau helaeth yn parhau i ddod o hyd i'r ail ddyn a adawodd y safle.
Cafodd dynes 20 oed, dau ddyn 37 oed, a dyn 50 oed eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r dyn 22 oed a'r ddynes 20 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymchwiliadau barhau.
Mae'r dyn 50 oed, a'r dynion 37 oed yn parhau yn y ddalfa, lle maen nhw'n cael eu cyfweld gan dditectifs.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sian Beck: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu'r ddynes ar adeg anhygoel o drist ac anodd. Maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
"Rydym yn parhau i ymchwilio er mwyn dod o hyd i'r dyn arall a adawodd y lleoliad, a hoffwn glywed gan unrhyw un sy'n gallu ein cynorthwyo ni gyda'n hymchwiliadau, i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dal.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhai sydd eisoes wedi siarad â swyddogion, mae eich gwybodaeth wedi bod yn werthfawr iawn.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni ar 101, neu drwy'r wefan, gan ddefnyddio rhif cyfeirnod 25000244712.
"Gallwch hefyd wneud adroddiad yn ddienw i'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111."