Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu swyddogion a staff yn ymgynnull ym Mhencadlys yr Heddlu yr wythnos yma er mwyn nodi Dydd Gŵyl Dewi – nawddsant Cymru.
Cafodd y digwyddiad anffurfiol ei drefnu er mwyn helpu hybu’r iaith Gymraeg a Chôr Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd y côr cymysg eu sefydlu fis Awst y llynedd, gyda’r prif nod o hybu iechyd meddwl positif a hefyd hybu’r iaith Gymraeg.
Gyda dros 80 o aelodau – gan gynnwys swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ynghyd â chydweithwyr sydd bellach wedi ymddeol, sydd yn teithio ar draws y rhanbarth, mae’r côr yn mynd o nerth i nerth.
Meddai’r Arweinydd a Rhingyll Arwyn Tudur Jones: “Hwn yw’r tro cyntaf i ni sefydlu côr yr heddlu ac rydym yn falch o ddweud ein bod yn mynd o nerth i nerth.
“Rydym eisoes wedi perfformio mewn digwyddiadau megis Noson Wobrwyo’r Heddlu a Noson Carolau y Gwasanaethau Brys ac rydym yn edrych mlaen at gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae rhan helaeth o aelodau’r côr yn ddi-Gymraeg felly mae o’n gyfle gwych i aelodau ddysgu Cymraeg a bod yn gyffyrddus yn defnyddio’r iaith bob dydd, yn y gwaith ac adref.
“Mae gennym ni lawer o bethau cyffrous ar y gweill eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gael berfformio o flaen cynulleidfaoedd newydd.”
Mae’r côr yn ymarfer ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn yn wythnosol dan arweiniad y pianydd Cymreig, Annette Bryn Parri – sydd wedi teithio ar draws y byd hefo unawdwyr, grwpiau a chorau ac mae’n fwyaf adnabyddus fel cyfeilydd i sêr opera fel Bryn Terfel.
Mae’r côr hefyd wedi bod yn ffodus i gael ymweliad gan unawdwyr enwog fel Rhys Meirion.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae’r côr yn ein cynrychioli ni yma yn Heddlu Gogledd Cymru yn dda iawn – y cysylltiad, y positifrwydd, yr angerdd a’r parch tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg.
“Dwi wrth fy modd bod pobl ar draws yr heddlu – o’r Ffederasiwn, Tîm Atal Trosedd Cefn Gwlad, Swyddfa’r Comisiynydd, staff cownteri blaen, swyddogion arfog, aelodau NARPO a’r Swyddogion Cefnogi Cymunedol yma – mae’n wych gwybod eu bod yn patrolio’r strydoedd un diwrnod a’r nesaf mae nhw yma, yn dod at ei gilydd ac yn cysylltu mewn ffordd arbennig iawn.
“Hoffwn ddiolch i Arwyn, Annette a’r côr i gyd am ddod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ni a dwi’n edrych ymlaen at weld sut maent yn datblygu dros y misoedd nesaf.”
Ynghyd a chlywed y côr yn canu, cafodd staff gyfle i gyfarfod ag aelodau o’r Uned Iaith Gymraeg a rhai o Bencampwyr Iaith Gymraeg yr Heddlu.