Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ateb galwadau 999, cerdded y bît fel Swyddog Cefnogi Cymunedol a helpu datrys lleoliad gwrthdrawiad angheuol – rydym yn dathlu rhai o arwyr tawel plismona.
Yr wythnos yma bydd lluoedd yr heddlu ar draws y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd er mwyn dathlu cyfraniad staff yr heddlu.
Wedi’i lansio gan yr CCPH (Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Heddlu) gyda chefnogaeth gan y Coleg Plismona, dyma’r ail Wythnos Dathlu a Chydnabod Staff yr Heddlu sydd yn gobeithio amlygu unigolion sy’n chwarae rhan bwysig o fewn y tîm plismona.
Fel rhan o’r wythnos, bydd lluoedd yr heddlu yn dathlu’r cyfraniad gan y rhai sy’n gweithio ar draws plismona – gan gynnwys swyddogion fforensig, staff glanhau, staff yr Uned Adnoddau Dynol, swyddogion Cyfathrebu corfforaethol ynghyd ag ymchwilwyr digidol, dadansoddwyr, fflyd, cyllid a mwy.
Y gobaith yw y bydd y gydnabyddiaeth yma yn annog pobl broffesiynol i feddwl am ddyfodol ym maes plismona.
Gan siarad am yr wythnos o ddathlu, meddai’r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Nid yw’r rôl mae staff yr heddlu yn ei wneud ar draws plismona yn y DU yn cael ei ddeall ac mae’n haeddu mwy o gydnabyddiaeth.
“Mae staff yr heddlu ar y rheng flaen yn ateb galwadau, cadw carcharorion yn ddiogel ac yn helpu cynyddu ymchwiliadau ynghyd ag addysgu a rhoi gwybodaeth i'n cymunedau.
“Mae gan Heddlu Gogledd Cymru bron i 1,450 o staff, sy’n cwmpasu adrannau megis nyrsys yn ein dalfeydd ac adran iechyd galwedigaethol, i staff sy’n ateb galwadau 999, yr adran gyfreithiol, TG a’n hadran cyfleusterau a logisteg sy’n cadw’r heddlu i redeg yn esmwyth.
“Mae’r wythnos yma i gyd yn ymwneud â chydnabod y cyfraniad hanfodol hwn ac yn dangos i’r cyhoedd fod staff yr heddlu, fel swyddogion, yn chwarae rôl bwysig ym maes plismona, yn diogelu cymunedau ac yn cyfrannu at gyfiawnder effeithiol. Mae cymaint o gyfleoedd gyrfaoedd cyffrous ar gael.
“Nid disgyn ar ddamwain i faes plismona wnaeth y rhan fwyaf o staff yr heddlu, fe wnaeth llawer benderfyniad cydwybodol oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu eraill. Mae’n bwysig ein bod ni’n cymeradwyo’r angerdd yma fel ein bod ni’n gallu annog eraill i mewn i’r gwasanaeth a chydnabod yr effaith mae staff yn cael ar blismona yn ei gyfanrwydd, yn helpu diogelu ein cymunedau.
Fe ychwanegodd: “Ni all Heddlu Gogledd Cymru weithredu heb yr unigolion yma a hoffwn ddiolch i bob aelod o staff a gwirfoddolwyr yn bersonol am y rôl anferth maent yn ei chwarae yn gwneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi yn y Deyrnas Unedig.”
Meddai Ysgrifennydd Cangen UNSAIN, Elizabeth Mitchell: “Mae staff yr heddlu yn hanfodol i Heddlu Gogledd Cymru gan neu bod yn dod â chyfoeth o brofiad ac yn arbenigwyr yn eu gwaith.
“Er nad yw’r rhan fwyaf o’u gwaith yn cael ei weld, mae staff yr heddlu yn sicrhau bod yr heddlu’n gweithredu’n effeithiol, ac ar ran UNSAIN, hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith a’u hymrwymiad i gymunedau gogledd Cymru.”
O ymchwilio olion bysedd i reoli’r systemau TG, i drinwyr galwadau a chadw rheolaeth ar gyllid, mae staff yr heddlu yn chwarae rôl annatod yn llwyddiant yr heddlu.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ystod fawr o gyfleoedd i staff. Gallwch ddilyn gyrfa gyffrous beth bynnag fo’ch dewis o faes. Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion rheng flaen, mae staff yr heddlu yn cadw’r Heddlu i redeg yn esmwyth.
Er mwyn dysgu mwy plis ewch draw i’n tudalen Gyrfaoedd Gyrfaoedd | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Gallwch ddilyn yr ymgyrch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DathluStaffYrHeddlu a dysgu mwy am waith rhai o’n staff arbennig a’r cyfleoedd sydd ar gael.
Dyma rai o'n staff ni:
Frank Hughes – Rheolwr Adeiladau a Logisteg, Heddlu Gogledd Cymru
Fi ydy Rheolwr Adeiladau a Logisteg Heddlu Gogledd Cymru a dwi wedi bod yn gweithio i’r heddlu ers bron i 28 mlynedd. â
Cyn ymuno roeddwn i’n gweithio fel adeiladwr hunangyflogedig ac mi wnes i ddechrau fy ngyrfa fel Swyddog Logisteg ym mis Mai 1998 yng Ngorsaf Heddlu Llandudno.
Mae diwrnod arferol yn fy swydd yn wahanol pob dydd – o ddelio hefo materion sy’n codi gan y ddesg gymorth megis xxx i ddinistrio planhigion canabis. I fod yn onest, mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mi ydw i, ynghyd ag aelodau eraill o fy nhîm, yn helpu nifer o adrannau gwahanol pob diwrnod.
Mae Diwrnod Agored yr Heddlu o hyd yn gyfnod prysur iawn i ni – ‘da ni’n helpu hefo trefniadau’r dydd – gosod biniau sbwriel ac ailgylchu o amgylch y safle, gosod ffensys, helpu adrannau hefo gosod stondinau, cario byrddau a chadeiriau er mwyn helpu gosod pebyll, clirio’r safle ar ddiwedd y dydd er mwyn sicrhau fod pob man yn barod ar gyfer gwaith y diwrnod wedyn.
Mae’n rhaid i mi ddweud, rhan orau’r swydd ydy’r ffaith dydych ddim yn gwybod beth ddaw i mewn nesaf – gorfod delio hefo rhywbeth sy’n argyfwng a’r amrywiaeth yn yr hyn dwi’n ei reoli. Yn ddiweddar cawson ni argyfwng dŵr wnaeth effeithio ar rai o’n gorsafoedd ni yng Nghonwy, gan gynnwys y Pencadlys lle dwi’n gweithio. Fe wnaethon ni ni sicrhau bod poteli dŵr ar gael i’r swyddogion, staff a gwirfoddolwyr a oedd ar ddyletswydd a bu rhaid trefnu toiledau dros dro ar gyfer y gorsafoedd hefyd.
Dwi wirioneddol yn mwynhau fy ngwaith hefo’r Heddlu a dwi’n lwcus iawn hefo’r tîm sydd o fy nghwmpas i.
Llun: Frank (yr ail o’r chwith) hefo aelodau o’i dîm yn ystod Diwrnod Agored yr Heddlu 2024.
Nicky Bellis
Ymunais â Heddlu Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2002 a setlo mewn i’r Tîm RMS yn 2008.
Dwi wedi gweithio mewn sawl rôl a dwi’n gwneud fy swydd bresennol fel Rheolwr Technoleg a Chefnogaeth Arfordir y Gorllewin a dwi nawr yn cynrychioli’r pedwar heddlu ac yn rheoli’r dadansoddwyr technegol.
Tra’n gweithio i HGC dwi wedi parhau i ddatblygu fy sgiliau ac addysg. Mae hyn wedyn wedi elwa fy natblygiad personol a’r awydd i ddysgu, ynghyd ag annog fy nhîm a bod yn fwy effeithiol yn fy rôl.
Fy nodweddion gorau yw empathi a chyfathrebu. O fewn HGC dwi’n Ôl-drafodwr Digwyddiadau Difrifol, Pencampwr Iechyd Meddwl a Golau Glas. Roeddwn i hefyd yn Gwnselydd hefo’r elusen Childline am dros 10 mlynedd ac yn ddiweddar rwyf wedi penderfynu gwirfoddoli mewn maes gwahanol.
Yn 2020 fe ddois yn gynrychiolydd UNSAIN a chymerais rôl llesiant. Mae hyn yn fy nghaniatáu i gyfuno’r gwaith a phrofiad ychwanegol dwi wedi ei gael dros y blynyddoedd er mwyn cynorthwyo ein haelodau/cydweithwyr o fewn HGC, yn ystod cyfnodau anodd iawn.
Wrth i mi weithio’n agosach hefo’r Gangen ac ehangu fy rhwydwaith yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, penderfynais fy mod eisiau cymryd rôl gwirfoddolwr fwy gweithredol, yn ogystal ag arwain ar les. Rwyf nawr yn fy ail flwyddyn o fod yn Gadeirydd ein cangen Unsain. Dwi’n mwynhau’r her a’r gwaith yma.
Dwi hefyd yn parhau i ennill cymwysterau yn y maes hwn. Dwi’n hoffi cadw’n brysur ac yn deall pwysigrwydd hunan ofal. Dwi’n gwneud hyn drwy ddarllen, meddwlgarwch a dwi wrth fy modd yn teithio, profi diwylliannau newydd, bwyd a phensaerniaeth.
Mandy Williams
Fy enw i yw Mandy Williams a dwi wedi byw yng Ngogledd Cymru drwy’r rhan fwyaf o fy oes a dwi’n byw ym Mhrestatyn gyda fy ngŵr, dwy gath gwyllt a chi bach German Shepard.
Fy ngwaith llawn amser yw Gweithredwr Polisi Cyfraith Cyffredin. Dwi wedi cael dipyn o swyddi gwahanol o fewn yr heddlu ers ymuno yn 2002 ac wedi bod yn gwneud fy swydd bresennol ers 18 mlynedd.
Ynghyd â fy ngwaith llawn amser dwi hefyd wedi bod yn Stiward UNSAIN am 21 mlynedd. Dwi wastad wedi gweithio yn y byd cyfreithiol gan gychwyn mewn swyddfa gyda chwmni o gyfreithwyr lleol pan nes i adael yr ysgol yn 1990. Wedyn cwblheais NHC yn y Gyfraith tra’n gweithio yn yr Adran Gyfreithiol yn Capita Bank, yna dychwelais i gwmni lleol o gyfreithwyr lle roeddwn yn baragyfreithiwr ymgynghori sifil. Pan ymunais â Heddlu Gogledd Cymru roeddwn eisiau parhau i helpu eraill, ac mae fy rôl hefo UNSAIN yn caniatáu i mi gefnogi aelodau pan maent ein hangen ni fwyaf.
Fy maes arbenigedd a fy niddordebau yw unrhyw beth sy’n ymwneud â’r Ddeddf Cydraddoldeb, materion anabledd, deddf gwahaniaethu a chyflogaeth.
Mae fy niddordebau yn cynnwys cerdded, mynd i’r sinema a theatr a bwyta allan.
Nodiadau: