Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr beic modur wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad traffig yng nghyffiniau Wrecsam.
Mi ddigwyddodd y gwrthdrawiad, yn ymwneud â phum cerbyd, ger Bronington o gwmpas 11.45am ar ddydd Llun, 10 Mawrth.
Mi ‘roedd y ddamwain yn ymwneud â beic modur Honda, BMW 120D M Sport, BMW 320i M Sport, Renault Clio a Vauxhall Corsa.
Mi gludwyd gyrrwr y beic modur efo anafiadau difrifol i Ysbyty Stoke.
Dywedodd Swyddog Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol, Ditectif Gwnstabl Donna Vernon: “’Da ni’n gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y A495 o gwmpas adeg y gwrthdrawiad, ac sydd efallai efo ffilm camera cerbyd fuasai’n gallu ein helpu ni efo’n hymchwiliad, i gysylltu efo ni cyn gynted â phosib.”
Dylai unrhyw un efo gwybodaeth gysylltu â swyddogion drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 25000199323.