Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 34 oed wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef i drais domestig a stelcian ei gyn-bartner.
Cafodd Zachary Engen, o Faes Garnedd, Tregele, Cemaes, ei dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Mercher, 12 Mawrth).
Cafodd orchymyn atal hefyd am 20 mlynedd rhag cysylltu â'r dioddefwr.
Mewn ymddangosiad llys cynharach, cyfaddefodd Engen i ymosod gan achosi gwir niwed corfforol, gan gymryd rhan mewn ymddygiad gorfodaethol a stelcio ei gyn-bartner.
Bu'n cam-drin y dioddefwr yn gorfforol a meddyliol am flynyddoedd, gan reoli'r hyn y gallai hi ei wneud, ei hynysu oddi wrth deulu a ffrindiau ac achosi iddi fyw mewn ofn a thrais.
Ar fwy nag un achlysur, ymosododd arni yn dreisgar pan oedd yn cysgu.
Byddai'r dioddefwr yn cuddio cleisiau i'w hwyneb a'i chorff yn rheolaidd gyda cholur trwm ac yn y pen draw stopiodd fynd allan.
Ar ôl dod â'r berthynas i ben, dechreuodd stelcian ei gyn-bartner a byddai'n ei dilyn ar deithiau yn y wlad, eistedd y tu allan i'w gweithle a throi i fyny tra roedd hi dros 350 milltir i ffwrdd yn ymweld â ffrind.
Byddai hefyd yn bygwth niweidio'i hun i gael sylw'r dioddefwr.
Cafodd Engen ei arestio ym mis Chwefror 2023 ar ôl i'r dioddefwr roi gwybod i'r heddlu amdano.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Rwy'n cymeradwyo'r dioddefwr am fod yn ddigon dewr i riportio ymddygiad treisgar, ymosodol, bygythiol ac obsesiynol Engen.
"Mae'n ddyn peryglus, a wnaeth wneud iddi fyw mewn ofn, a chael effaith ddinistriol ar ei bywyd.
"Mae stelcian yn drosedd sy'n mynd i wraidd trais yn erbyn merched a genethod, yn tynnu’r teimlad o ddiogelwch oddi wrthynt.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn caniatáu i'r dioddefwr symud ymlaen, gan wybod nad yw Engen bellach yn fygythiad i'w diogelwch.
"Rydym yn cymryd pob adroddiad o gam-drin domestig a stelcian yn ddifrifol iawn a byddwn yn cefnogi dioddefwyr drwy gydol unrhyw ymchwiliad.
"Os ydych chi, yn dioddef stelcian neu gam-drin domestig, peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun. Rhowch wybod i ni ar-lein neu drwy ffonio 101, a ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.