Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dwy ddynes wedi marw yn dilyn digwyddiad ger Nant Gwynant, Gwynedd neithiwr (nos Fercher, 11 Mehefin).
Mi gafodd yr heddlu eu galw am 21:31 yn dilyn hysbysiad bod un ddynes wedi cael ei thynnu allan o’r dŵr, a bod dynes arall yn y dŵr yn y pyllau ger Llwybr Watkin.
Mi gafodd Timau Achub Mynydd Llanberis ac Aberglaslyn eu galw i’r ardal, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, yr Ambiwlans Awyr ac hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau.
Mi gafodd yr ail ddynes ei thynnu allan o’r dŵr, ond er gwaethaf ymdrechion pawb mi gadarnhawyd fod y ddwy wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau dwysaf gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddwy.
“Mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn darganfod yr hyn a ddigwyddodd. Mae ymchwiliad yn parhau i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd. Rydym yn apelio am unrhwy un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 6pm a 9pm neithiwr i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 25000480868.”
Mae’r Crwner yn ymwybodol.