Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 29 oed o Wynedd wedi ei garcharu am dreisio merch yn ei harddegau.
Mi ymddangosodd Kyle Martin John Parry, gynt o ardal Caernarfon, yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Mawrth, 10 Mehefin.
Mi gafodd Parry, oedd efo euogfarnau blaenorol am ymosod yn rhywiol ar fachgen pump oed yn 2017, ddedfryd o wyth mlynedd a naw mis yn y carchar am y troseddau hanesyddol.
Mi ‘roedd y ddedfryd yn gysylltiedig â chyhuddiadau o weithgaredd rhywiol â phlentyn, ac ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad.
Mi roedd y dioddefwr yn 15 oed pan ddigwyddodd y troseddau yn 2015.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Dominique Swift: “Mi hoffwn i ganmol dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn, ac am ymddiried ynddo ni ac am siarad efo ni.
“Mi ddangosodd hi ddewrder rhyfeddol yn y llys heddiw, ac mi ddewisodd hi ddarllen ei Datganiad Personol Dioddefwr yn uniongyrchol i’r dyn oedd wedi ymosod arni hi.
“Mae hyn yn neges i bobl eraill sydd efallai’n dioddef mewn distawrwydd. Mi wnawn ni wrando. Mi wnawn ni bob dim allwn ni er mwyn dod â’r rhai sy’n peri niwed rhywiol o flaen eu gwell. ‘Da ni yma er mwyn eich cynorthwyo chi.”
‘Da ni’n cymryd bob hysbysiad o gam-drin rhywiol o ddifri ac mi wnawn eu hymchwilio yn drwyadl, waeth pa mor ddiweddar neu hir yn ôl mae wedi digwydd.
‘Da i’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol yn y gorffennol i ddod atom ni. ‘Da ni yma i wrando ac i’ch cynorthwyo chi.
Wyddoch chi bod dioddefwyr y mwyafrif o droseddau rhywiol yn cael aros yn anhysbys gydol eu oes?
Mae hyn yn golygu na fydd eich manylion byth yn cael eu rhyddhau yn y cyfryngau.
‘Da ni’n ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a’ch lles, gan sicrhau bod pob hysbysiad yn cael ei ymchwilio’n drylwyr.