Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 56 oed a gafodd ei ddal yn gyrru HGV bron bedair gwaith dros y terfyn yfed a gyrru wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Iurie Istrati, sydd heb gartref sefydlog, yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ar ddydd Iau 29th Mai lle cyfaddefodd yrru'n beryglus ac yfed a gyrru.
Ychydig cyn 1pm ar 28 Mai ymatebodd yr heddlu i alwad 999 yn adrodd am HGV yn gwyro rhwng lonydd ac ymyl y briffordd ar yr A483 yng Ngresffordd.
Er gwaethaf ymdrechion gan swyddogion i dynnu'r cerbyd i un ochr, parhaodd Istrati yrru, gan osgoi gwrthdrawiad hefo'r rhwystr ar ochr y ffordd.
Gan ofni y gallai gwrthdrawiad difrifol ddigwydd, goddiweddodd swyddogion Istrati ar yr A5 ger Halton ac yn raddol daeth â'r HGV i stop.
Yn nalfa Llai, rhoddodd Istrati sbesimen anadl o 127 microgram o alcohol, bron bedair gwaith dros y terfyn cyfreithiol o 35.
Cafodd ei garcharu am naw mis.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a phedwar mis, ac ar ôl hynny byddai'n ofynnol iddo basio prawf gyrru estynedig er mwyn adnewyddu ei drwydded.
Dywedodd PC Ryan Sheppard: "Gallai gyrru peryglus Istrati fod wedi achosi gwrthdrawiad difrifol neu angheuol pe na bai wedi cael ei stopio.
"Fe wnaeth ddiystyru diogelwch aelodau'r cyhoedd a'r gyfraith.
"Dwi'n diolch i'r gyrrwr pryderus a ffoniodd ein hystafell reoli ni i'n rhybuddio am y digwyddiad hwn. Hoffwn ddiolch i'r unigolyn a ffoniodd ni hefo'u pryderon ynglŷn â'r ymddygiad a welson nhw. Er na fyddwn ni byth yn gwybod, maen nhw o bosibl wedi achub bywydau.
"Mae lleihau nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn ni’n parhau gwneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared ar yrwyr peryglus oddi ar y ffyrdd.
"Os 'da chi'n amau bod rhywun yn yfed a gyrru neu gyrru ar gyffuriau, dwi'n eich annog i riportio hyn i ni fel y gallwn ni gymryd camau a chadw ein cymunedau'n saff."