Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr oedd wedi’i wahardd rhag gyrru, wnaeth arwain yr heddlu ar ymlid cyflym cyn ceisio mynd ar yr A55 yn y cyfeiriad anghywir, wedi’i garcharu.
Mi ymddangosodd Nathan Raymond Williams, 29 oed o Ffordd Tan y Bryn, Maesgeirchen, Bangor gerbron y llys yng Nghaernarfon yr wythnos ddiwethaf, wedi’i gyhuddo o droseddau gyrru gan gynnwys gyrru’n beryglus a gyrru ac yntau wedi’i wahardd.
Mae’r ddedfryd yn dilyn digwyddiad ym Mangor toc cyn 5 o’r gloch ar nos Sul, 12 Ionawr, lle ‘roedd swyddog o’r Uned Troseddau Ffyrdd ar batrôl yn ardal Ffordd y Garth pan welodd gar yn goryrru ar hyd Ffordd Glynne.
Mi ddilynodd y swyddog y cerbyd – sef Alfa Romeo arian, ar Ffordd Sackville pan geisiodd stopio’r cerbyd. Mi barhaodd Williams yrru – gan gynyddu ei gyflymder wrth fynd ar y Stryd Fawr. Mi yrrodd drwy olau coch ar y gyffordd efo Ffordd Farrar. Mi barhaodd yrru’n gyflym ar Ffordd Caernarfon gan gyrraedd 60mya, gan oddiweddyd sawl cerbyd cyn mentro o amgylch cylchfan Tesco yn y cyfeiriad anghywir. Yna, mi aeth ar yr A4086 gan deithio’n groes i’r traffig cyn croesi ar draws y ffordd a mynd fyny’r ffordd ar yr A55.
Mi geisiodd Williams droi i’r dde ar ben y ffordd er mwyn teithio tua’r gorllewin ar ffordd tua’r dwyrain yr A55. Felly, mi gymerodd y swyddog gamau osgoi a gwneud cyswllt tactegol â’r cerbyd er mwyn ei stopio.
Mi blediodd Williams yn euog ac mi gafodd ei garcharu am 52 wythnos a’i wahardd rhag gyrru am 5 mlynedd a 3 mis.
Dywedodd Cwnstabl Robert Williams o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Roedd safon gyrru Williams y noson honno yn gwbl anystyriol ac mi fuasai wedi bod yn hawdd iddo achosi gwrthdrawiad difrifol, os nad angheuol.
“’Da ni’n gwybod bod gyrwyr sydd wedi’u gwahardd ac heb yswiriant fel Williams yn peri perygl i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd, gan achosi gwrthdrawiadau difrifol ac wrth achosi costau yswiriant uwch i ni gyd.
“’Da ni’n cynnal patrolau’n rheolaidd ac yn benderfynol o ddal troseddwyr. Felly ‘da ni’n falch bod gyrrwr peryglus wedi’i dynnu oddi ar y ffyrdd ac mae bellach yn derbyn y canlyniadau drwy dreulio cyfnod yn y carchar.”