Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes 34 oed o Wrecsam wedi ei charcharu am ymosod ac aflonyddu
Mi gyfaddefodd Naomi Maybury, o Lôn yr Ysgubau, Gwersyllt i dri cyhuddiad, gan gynnwys stelcian heb achosi ofn ac ymosod ar dyst a swyddog yr heddlu.
Mi ddechreuodd aflonyddu’r dioddefwr ym mis Mehefin y llynedd ar ôl ffrae rhwng y ddwy.
Mi wnaeth hi riportio Maybury i’r heddlu fis ar ôl hynny, ar ôl iddi hi fygwth ymosod arni hi, a gweiddi nifer o sylwadau cas at blentyn y dioddefwr.
Ond, mi wnaeth Maybury barhau i aflonyddu’r dioddefwr, wrth ei dilyn a mynd i fyny ati mewn nifer o lefydd.
Ym mis Awst, mi aeth Maybury heibio’r dioddefwr mewn siop, ac eto gweiddi sylwadau cas ati hi a’i phlentyn.
Yna, mi ymosododd arni hi ar 23 Rhagfyr yn ystod digwyddiad direswm, wrth iddi hi’i dilyn adref efo’i phlentyn.
Pan gafodd hi ei harestio’r diwrnod hwnnw, mi boerodd hi yn wyneb swyddog.
Yn Llys y Goron, yr Wyddgrug ar ddydd Iau 30 Ionawr, mi gafodd ei charcharu am 15 mis.
Hefyd, mi dderbyniodd orchmynion atal sy’n para tair blynedd er mwyn gwarchod y dioddefwr a’i phlentyn.
Dywedodd y swyddog archwilio, Zoe Harrison: “Mi wnaeth ymddygiad aflonyddol, bygythiol a threisgar Maybury achosi gofid sylweddol i’r dioddefwr a’i theulu, gan greu teimlad o ansicrwydd iddi, gan gymryd y teimlad o ddiogelwch oddi wrthyn nhw, ac mae hyn wedi cael effaith ddwys a pharhaus arnyn nhw.
“’Dwi’n cymeradwyo’r dioddefwr am ei dewrder yn dod atom ni, er mwyn sicrhau bod Maybury yn cael ei dwyn yn atebol am ei gweithredoedd.
“’Dwi’n gobeithio bydd yr achos hwn yn atgoffa na fydd aflonyddwch na thrais yn cael ei oddef, ac mi wnawn ni ymdrin yn gadarn â’r rhai sy’n ymosod ar swyddogion yr heddlu.”