Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed wedi ei garcharu am droseddau trais domestig ar gyn gymar.
Mi gyfaddefodd Cailum Jones, o Wenfro, Wrecsam, achosi niwed corfforol difrifol a dau drosedd o ymosod ar y dioddefwr.
Mi ymddangosodd yn Llys y Goron, yr Wyddgrug, heddiw, dydd Iau 6 Chwefror, lle gafodd ei garcharu am ddwy flynedd.
Mi gafodd hefyd orchymyn atal sy’n para pum mlynedd, er mwyn gwarchod y dioddefwr.
Yn ystod oriau mân 11 Tachwedd y llynedd, mi aeth swyddogion i dŷ’r dioddefwr ar ôl i Jones ei dyrnu yn ei hwyneb, gan friwio’i hwyneb uwchben ei gwefus a thorri ei dannedd.
Mi gafodd ei arestio ac yna ei ryddhau ar fechnïaeth, efo amodau i beidio â chysylltu efo’r dioddefwr.
Yn dilyn ei arestiad, mi ddatgelodd y dioddefwr bod Jones wedi ymosod arni hi nifer o weithiau dros gyfnod o 12 mis.
Mi riportiodd hi ynglŷn â dau achlysur, ei fod wedi cydio yn ei gwallt ac ymosod arni yn ystod ffrae.
Dyddiau ar ôl ei arestiad, mi dorrodd Jones amodau ei fechnïaeth ac yna mi gafodd ei gyhuddo.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Troy Williams: “Does dim esgus am ymddygiad treisgar tuag at ferched, ac ni fyddwn ni’n ei oddef.
“’Dwi’n cymeradwyo dewrder y dioddefwr, sy’n anffodus yn dal i ddioddef effeithiau corfforol ac emosiynol y digwyddiadau, am riportio beth oedd wedi digwydd iddi hi, ac am helpu ein ymchwiliad yn ystod cyfnod anodd ofnadwy.
“’Dwi’n annog dioddefwyr cam-drin domestig i siarad – mi wnawn ni wrando, ac mi wnawn ni ymchwilio pob hysbysiad yn drylwyr er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell.”
Ymgyrch Unite ydy’n hymateb ni er mwyn trechu trais yn erbyn merched a genethod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru