Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i feddwl ddwywaith cyn anfon lluniau o’u hunain yn noeth i eraill.
Daw’r cyngor fel rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth sy’n cael ei gyflwyno gan Swyddogion Heddlu Ysgolion Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn cynnydd yn y nifer o ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt mewn ysgolion.
Mae ‘secstio’ yn derm a ddefnyddir ar gyfer anfon neu dderbyn delweddau neu fideos rhywiol, noeth neu led-noeth y gall person ifanc eu cymryd eu hunain (hunlun), neu gan eraill.
Ers mis Medi, mae Swyddogion Heddlu Ysgolion wedi delio â 28 digwyddiad o secstio yn ymwneud â phobl ifanc.
Mae swyddogion yn cyflwyno gwersi ar y pwnc mewn ysgolion uwchradd ledled y rhanbarth mewn ymgais i helpu i godi ymwybyddiaeth ac mae’r ymgyrch a’r negeseuon, sy’n anelu at bobl ifanc ac oedolion, yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr heddlu. Mae deunydd printiedig hefyd wedi’i gynhyrchu a fydd yn cael ei arddangos mewn ysgolion a cholegau.
Meddai Mannon Williams, Rheolwr Gwasanaethau Ysgolion Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn gwybod fod secstio ymysg rhai dan 18 oed yn fater sydd ar gynnydd yn genedlaethol, nid yn unig yma yng ngogledd Cymru.
“Fodd bynnag , mae’r nifer cynyddol o adroddiadau wedi tynnu sylw at pam ei bod yn bwysig addysgu pobl ifanc am ganlyniadau posib secstio ac annog rhieni a gofalwyr i gael sgyrsiau agored a gonest â’u plant am y mater.
“Ers mis Medi, mae Swyddogion Heddlu Ysgolion wedi cyflwyno 159 o wersi ‘Pictiwr Peryg’ i ddisgyblion ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth – gan gyrraedd 4,006 o ddisgyblion a 221 o oedolion. Dyma’r wers gyda’r galw mwyaf amdani hyd yn hyn y tymor hwn.
“Mae technoleg wedi datblygu ac ar gael fwyfwy, dyna pam mae’r ymgyrch hon mor bwysig. Drwy addysgu pobl ifanc am y gyfraith sy’n ymwneud â secstio a chanlyniadau posibl anfon y mathau hyn o ddelweddau, gallwn eu helpu i osgoi gwneud penderfyniad y byddant yn difaru yn ddiweddarach.
“Mae unrhyw un sy’n cymryd, yn anfon, yn rhannu, neu sydd â delwedd noeth o rywun o dan 18 oed yn torri’r gyfraith. Nid ydym eisiau troi pobl ifanc yn droseddwyr lle nad yw’n briodol, a gobeithiwn drwy addysgu pobl ifanc am secstio y gallwn osgoi hyn yn gyfan gwbl.
“Mae diogelu yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym yn ei wneud gyda phlant a phobl ifanc ac rydym am ailgadarnhau i bobl ifanc a rhieni/gofalwyr ein bod yma i helpu pan fyddant ein hangen.”
Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnod #MeddyliwchCynGyrru
Cyngor ar gyfer pobl ifanc:
Cyngor i rieni/gofalwyr sy’n poeni am eu plant yn secstio:
Os mae hyn wedi digwydd:
Ble a sut i gael cymorth:
Parent Zone | At the heart of digital family life
Keeping children safe online | NSPCC