Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd gyrrwr HGV a brofodd yn bositif am gocên ar ochr y ffordd ymhlith y chwech arestiad gyrru ar gyffuriau a wnaed gan yr Uned Troseddau Ffyrdd ymhen ychydig oriau ddoe (dydd Mawrth, 14 Ionawr).
Cafodd y dyn 57 oed o ardal Runcorn ei stopio ar yr A470 ger Llanrwst yn dilyn adroddiadau gan aelodau o’r cyhoedd a oedd yn pryderu am sut yr oedd yn gyrru. Cafodd swyddog o’r Uned Troseddau Ffyrdd eu danfon i’r ardal gan stopio’r lori. Cafodd y gyrrwr lori ei arestio a wedyn ei ryddhau o dan ymchwiliad wrth i swyddogion ddisgwyl am ganlyniadau profion pellach.
Roedd arestiadau eraill yn cynnwys dyn 26 oed a oedd eisoes o dan waharddiad gyrru a brofodd yn bositif am gocên a chanabis ym Mangor ar ôl iddo gael ei stopio ar yr A55.
Cafodd dyn 45 oed o Fae Cinmel ei arestio hefyd ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau ar ôl iddo roi prawf bositif am gocên ar ochr y ffordd. Fe dderbyniodd docynnau cosb ar ôl i’r swyddog ddarganfod dau deiar diffygiol ar ei gerbyd. Nid oedd ganddo MOT dilys ac nid oedd y gyrrwr yn gwisgo gwregys diogelwch.
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: “Hoffem ddiolch i'r unigolion a wnaeth ein ffonio ni o ran ymddygiad rhai gyrwyr ddoe – er na wnawn ni fyth wybod, maent o bosib wedi achub bywyd.
“Mae gyrru o dan ddylanwad yn cael effaith sylweddol ar bobl. Gall y chwalfa a achosir i deuluoedd yn dilyn gwrthdrawiad angheuol fod yn anfesuradwy. Er gwaethaf ein rhybuddion cyson ni, mae'n hynod siomedig bod pobl yn dal i ddewis peryglu eu bywydau a bywydau defnyddwyr eraill y ffyrdd.
“Gall cyffuriau effeithio eich meddwl a'ch corff mewn amrywiol ffyrdd hefyd, sy'n golygu eich bod chi ddim yn gallu gyrru'n saff. Nid yn unig hynny, mae’r effeithiau’n gallu parhau am oriau neu hyd yn oed ddyddiau. Gall gyrru ar gyffuriau arwain at amserau ymateb arafach, canolbwyntio gwael, dryswch, blinder a bod yn orhyderus sy'n golygu eich bod yn cymryd risgiau diangen ac yn ymddwyn yn afreolus.
Fe ychwanegodd: "‘Da ni wedi gweld canlyniadau llawer gormod o drasiedïau ar ffyrdd gogledd Cymru oherwydd gweithrediadau hunanol lleiafrif. Mae dewis gyrru ar gyffuriau’n beryglus ac annerbyniol. Dydw i ddim yn meddwl fod pobl yn amgyffred graddau llawn y perygl mae gyrru ar gyffuriau yn ei achosi.
“Mae swyddogion ar ddyletswydd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn ar ochr y ffordd fel rhan o'n hymrwymiad parhaus ni i gadw'r ffyrdd yn saff i bawb."
Os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth yn ymwneud hefo rhywun ‘da chi’n feddwl sy'n yfed a gyrru neu’n gyrru ar gyffuriau, cysylltwch hefo Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.