Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwe dyn wedi cael eu cyhuddo o ddwyn gwartheg o fferm ar Ynys Môn.
Daw yn dilyn ymchwiliad hir gan y Tîm Troseddau Cefn Gwlad ar ôl i 14 o wartheg gael eu dwyn o sied ar gyrion Llannerchymedd, yn ystod gyda'r nos ar 10 Rhagfyr 2022.
Cyflawnwyd sawl gwarant mewn cysylltiad â'r digwyddiad, gan gynnwys dau leoliad amaethyddol yn ardal Stoke on Trent ym mis Ebrill 2023.
Yn ystod y chwilio, daethpwyd o hyd i wartheg, tractor a beic pedwar olwyn wedi'u dwyn.
Cafodd yr ymchwiliad help gan uned ddronau Heddlu Gogledd Cymru, swyddogion o Heddlu Swydd Gaer a'r Tîm Dwyn mewn Adeiladu ac Amaethyddiaeth Cenedlaethol.
Mae pedwar dyn o Ogledd Cymru, un o Stoke on Trent ac un arall o Swydd Stafford wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio cyflawni byrgleriaeth hefo'r bwriad o ddwyn mewn cysylltiad hefo'r digwyddiad.
Mae'r rhai sydd wedi'u cyhuddo'n cynnwys:
Liam Kettleborough, 29, o Coventry Road, Church Lawford, Rugby.
Daniel Jones, 30, o Faenaddwyn, Llannerchymedd, Ynys Môn.
Jack John Billington, 22, o Lôn Llyndir, Yr Orsedd, Wrecsam.
Michael Anthony McLeod, 55, o Bennetts Lane, Higher Kinnerton, Sir y Fflint.
Stanley Mark Jones, 26, o Fannau Brychdyn, Pentre Brychdyn, Wrecsam.
Clifford Kelvin Smith, 64, o Whitfield Road, Stoke on Trent.
Byddan nhw'n ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon ar 3 Ebrill.