Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Rhyl wedi gweld amcangyfrif o 40% o ostyngiad yn nifer y troseddau a adroddwyd dros gyfnod yr ŵyl.
Mae menter Hel, Dal a Chryfhau, a adwaenir fel Prosiect Adnewyddu, wedi bod yn rhedeg yn ardal Gorllewin y Rhyl ers mis Chwefror 2024.
Yn fwyaf diweddar, maen nhw wedi nodi gostyngiad sylweddol mewn troseddau a gofnodwyd yn ystod y cyfnod rhwng dydd Gwener gwallgof a Nos Galan. Fel arfer, dyma rai o'r nosweithiau prysuraf o ran yr economi nos yn yr ardal.
Bu swyddogion lleol yn plismona'r economi nos ac fe gawson nhw help gan ambiwlans San Ioan a marsialiaid SIA tacsis wedi'i hariannu gan y Bwrdd Cynllunio Ardal.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Kevin Smith: "Fe wnaethon ni gyflawni gostyngiad o tua 40% mewn trosedd ar ddyddiadau pwysig yr ŵyl o'i gymharu â'r llynedd.
"Mae hyn yn rhywbeth y mae'r tîm wedi bod yn gweithio'n galed i'w gyflawni dros y chwe mis diwethaf. 'Da ni'n falch o gael lle saffach i bobl fyw, gweithio ac ymweld ag o.
"Gwnaeth swyddogion y Prosiect Adnewyddu helpu'r Tîm Plismona Cymdogaethau ddarparu dull cadarn o ymdrin hefo anhwylder cysylltiedig hefo alcohol yn y trefi a gweithio'n agos hefo busnesau lleol er mwyn sicrhau amgylchfyd saffach.
"Roedd swyddogion nid yn unig yn bresennol yn y Rhyl, ond mewn trefi o Abergele i Brestatyn, gan sicrhau presenoldeb amlwg ar draws yr ardal er mwyn tawelu'r rhai a oedd allan yn mwynhau'r dathliadau.
"Ar y cyfan, roedd cyfnod yr ŵyl yn llwyddiant, a dwi'n edrych ymlaen at barhau hefo'n gwaith hefo partneriaid allweddol ledled y Rhyl wrth i ni gamu mewn i 2025."