Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) ar gyfer Cricieth wedi cael ei ymestyn er mwyn ehangu’r ardal mae’n ei ddiogelu, yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol diweddar yn yr ardal.
Mi ganiataodd Gyngor Gwynedd y newidiadau, fydd yn parhau mewn grym tan fis Awst 2027. Mae’r ardal newydd o dan y gorchymyn yn y llun isod.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones: “’Dwi’n ddiolchgar am gefnogaeth y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol am ein helpu ni ymestyn ardal y PSPO a chymuned Cricieth sydd wedi rhoi adborth yn yr ymgynghoriad diweddaraf.
“Mae llawer o waith wedi’i gyflawni yn ddiweddar rhwng yr heddlu a phartneriaid, er mwyn creu cynllun sy’n canolbwyntio ar y problemau. Mae hyn wedi sicrhau gwaith ymyrraeth ieuenctid, ochr yn ochr â’n swyddog Diogelu Trwy Ddyluniad sydd wedi adolygu’r mesurau diogelwch.
“Mae PSPO yn offeryn hanfodol ar gyfer plismona, ac wedi profi’n flaenorol eu bod yn atal achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“’Da ni’n gobeithio na fyddwn yn gorfod defnyddio grymoedd y PSPO. Fodd bynnag, mi wnawn ni barhau gweithio efo’r cyngor lleol er mwyn bod yn wyliadwrus am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mi wnawn weithredu os oes unrhyw un yn torri amodau’r gorchymyn.”
Mae torri amodau PSPO yn drosedd ac yn cael ei drin drwy Hysbysiad Cosb Benodedig neu erlyniad drwy’r Llys Ynadon.
Am fanylion llawn y PSPO, ewch ar wefan Cyngor Gwynedd.