Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch er mwyn mynd i'r afael hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar waith ar draws Wrecsam mewn ymateb i gynnydd mewn digwyddiadau.
Mae grŵp o hyd at 30 o bobl ifanc wedi bod yn teithio o ddinas Wrecsam i ardaloedd ym Mhonciau, Johnstown a Rhos, lle mae yfed o dan oed, difrod troseddol, dwyn o siopau, bygwth ac anhrefn wedi cael eu hadrodd amdanyn nhw.
Y penwythnos diwethaf, fe wnaeth swyddogion stopio sawl un ifanc fel rhan o'r ymgyrch cyn i lond llaw gael eu gwasgaru o safle bws yn y Rhos.
Cafodd un ifanc a oedd yn achosi niwsans yn yr ardal hysbysiad gwarchod cymunedol llawn. Mae hwn yn offeryn er mwyn mynd i'r afael hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio'n negyddol ar ansawdd bywyd y gymuned.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio i ddechrau yn y ddwy ardal yn Wrecsam fis Hydref diwethaf yn dilyn sawl digwyddiad gwrthgymdeithasol o natur debyg.
Mae Stefan Lederle, Arolygydd Wrecsam Wledig a Heidi Stokes, Arolygydd Dinas Wrecsam yn ymwybodol o'r pryderon cynyddol yn y gymuned ac wedi dod ynghyd i geisio mynd i'r afael â'r problemau, atal troseddau a thawelu meddyliau trigolion.
Yn ddiweddar, cyfarfu'r Arolygydd Lederle hefo cynghorwyr lleol ac asiantaethau partner er mwyn trafod pryderon pobl, a pha gamau fyddai'n cael eu cymryd yn lleol.
Dywedodd yr Arolygydd Lederle: "Bydd mwy o batrolau ar droed amlwg ar waith ar draws pob llecyn, yn ogystal â phatrolau mewn dillad plaen. Bydd help gan dimau troseddu ieuenctid er mwyn ymgysylltu hefo pobl ifanc yn yr ardal."
"Bydd swyddogion hefyd yn teithio ar rai llwybrau bysiau er mwyn rhoi tawelwch meddwl ac atal digwyddiadau. Mae hyn yn dilyn adroddiadau bod pobl ifanc yn codi ofn ar yrwyr.
"Mae cyngor a help wedi cael eu cynnig i siopau cyfleustra sydd wedi cael eu targedu o'r blaen. Mae hyn er mwyn eu gwarchod nhw rhag digwyddiadau pellach yn well. Mae gorchmynion gwasgaru hefyd wedi'u hawdurdodi er mwyn rhoi'r grym i swyddogion gyfarwyddo unrhyw un sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol i adael yr ardal a pheidio â dychwelyd.
Ychwanegodd: "Bydd pob achos ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei drin yn gadarn. Bydd adnabod unrhyw unigolion sy'n gysylltiedig hefo digwyddiadau'n cael eu trosglwyddo i gymryd camau pellach.
"Mae mynd i'r afael â'r broblem hon, a deall pryderon yn lleol yn flaenoriaeth. Dyna pam 'da ni'n gweithio'n galed bob dydd er mwyn mynd i'r afael hefo'r mater.
"Buaswn yn annog unrhyw un sydd wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymuned nhw roi gwybod i ni fel y gallwn ni weithredu lle bo angen.
"'Da ni'n ystyried pob adroddiad o ddifrif. Mae'n annerbyniol yn ein cymunedau ni ac ni fydd yn cael ei oddef.
"Byddwn hefyd yn annog rhieni wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod ble mae eu plant, a beth maen nhw'n ei wneud."