Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae grŵp o dri o ddynion wedi eu carcharu yn dilyn byrgleriaeth mewn eiddo yn Wrecsam.
Mi ddigwyddodd y fyrgleriaeth mewn cartref ym Mronwylfa, Wrecsam ar ddydd Sul, 1 Rhagfyr 2024.
Mi ‘roedd y dioddefwyr, oedd wedi dychwelyd o’u gwyliau’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw, wedi cael eu dilyn yn ddiarwybod o Faes Awyr Manceinion gan gar oedd yn cynnwys tri dyn.
Wrth ddadbacio eu bagiau yn eu cartref, mi wnaeth y pâr weld dyn anhysbys yn hwyrach ymlaen, yn mynd i’r cyntedd ac yn dwyn bag dogfennau yn cynnwys arian parod ac eitemau personol.
Mi wnaeth y swyddogion ymchwilio adolygu ffilm CCC gerllaw, a gweld dau ddyn yn ffoi’r lleoliad ar adeg y digwyddiad.
Mi gafodd cerbyd wedi’i logi, oedd wedi’i yrru gan un o'r dynion, ei adnabod, ac mi gafodd y tri o dan amheuaeth eu harestio ar draffordd ym Manceinion Fwyaf o ganlyniad.
Mi gafodd y tri i gyd eu cyhuddo dri diwrnod ar ôl y digwyddiad, ar 4 Rhagfyr.
Ar ôl pledio’n euog eisoes i un drosedd o fyrgleriaeth, mi gafodd Arturo Mendivil-Valvin, 49 oed, o Delta Street, Llundain; Arturo Flores-Marquez, 59 oed, o Upper Clapton Road, Llundain; a Jhony Ramirez-Loayza, 56, o Hemberton Road, Llundain eu dedfrydu yn Llys y Goron, Caernarfon heddiw (dydd Iau, 9 Ionawr).
Mi wnaethon nhw i gyd dderbyn dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Phil Beattie: “’Doedd Mendivil-Valvin, Flores-Marquez a Ramirez-Loayza ddim yn ystyried y bobl wnaethon nhw ddwyn oddi arnyn nhw, gan eu bod nhw wedi eu dilyn nhw o’r maes awyr, efo’r bwriad o dorri fewn i’w cartref.
“Mi wnaeth y digwyddiad gofidus hwn eu gadael yn teimlo’n anniogel yn eu cartref eu hunain.
“’Da ni’n cydnabod pa mor ymosodol a thrawmatig ydy bod yn ddioddefwr byrgleriaeth ac yn croesawu’r ddedfryd, sy’n anfon neges glir bod troseddwyr trefnedig am gael eu hymlid a’u rhoi o flaen eu gwell.
“’Da ni’n gobeithio wnaiff hyn nid yn unig helpu’r dioddefwyr, ond hefyd rhoi amser i’r dynion hyn adlewyrchu ar y niwed maen nhw wedi’i achosi.”