Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd mwy o swyddogion ar batrôl ar draws dinas Wrecsam heno (Dydd Iau, 23 Ionawr) fel rhan o drefniadau plismona diwrnod gêm.
Bydd gêm Cynghrair Un Cynghrair Bel Droed Lloegr (yr EFL) rhwng CPDC Wrecsam a Dinas Birmingham yn cael ei chwarae am 8pm heno.
Disgwylir torf fawr yn stadiwm y Cae Ras STōK gan fod disgwyl i oddeutu 12,000 o gefnogwyr ddod.
Mae adnoddau gan yr heddlu wedi cael eu cynyddu er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Nick Evans: “Mae diogelu'r cefnogwyr a'r gymuned yn flaenoriaeth i ni ar ddiwrnod gem yn enwedig pan fydd y dorf yn enfawr.
"Dylai mynychu gemau yn Wrecsam fod yn achlysur pleserus i bawb a byddwn yn gwrthwynebu unrhyw fath o anrhefn sy'n gysylltiedig â phêl-droed yn llym.
"Fel erioed, 'da ni'n annog cefnogwyr Wrecsam fod yn gaffaeliad i'w clwb yn ystod y gêm."
Ychwanegodd: "Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam o'r un farn am ymddygiad cefnogwyr mewn gemau pêl-droed. Os bydd anhrefn yn digwydd, byddwn ni'n cydweithio er mwyn adnabod pobl o dan amheuaeth, mynd ar drywydd achosion troseddol a gorchmynion gwahardd pêl-droed i'r rhai o dan sylw.
"'Da ni'n gwybod fod y mwyafrif o gefnogwyr yn ymddwyn yn gyfrifol ac maen nhw'n destun balchder i'r ddinas a'r clwb.
"Fel heddlu, byddwn ni'n parhau gweithio'n agos hefo'r clwb, y cefnogwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau fod diwrnod gêm yn Wrecsam yn saff a dymunol i bawb.
"Fe hoffwn i ddiolch i'r gymuned ehangach yn Wrecsam am eu hamynedd cyn gêm nos Iau."
Bydd y strydoedd ar gau yn yr ardaloedd o gwmpas y cae yn fuan cyn diwedd y gem i roi cyfle i'r cefnogwyr adael y stadiwm yn ddiogel.
Bydd cae'r ffyrdd yn digwydd o gwmpas Ffordd yr Wyddgrug ac yn cyfyngu mynediad i gerbydau i'r cae.
Pan fyddwch yn ymweld â'r Cae Ras, cadwch at y marciau a'r conau ar y ffyrdd, a pharciwch yn gyfrifol a dangoswch barch at gymdogion y Clwb.
Am fwy o wybodaeth am ddiwrnod y gêm, ewch ar wefan Clwb Pêl-droed Wrecsam: Y newyddion diweddaraf – CPDC Wrecsam