Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 27 oed wnaeth ddwyn car a fan yn yr Wyddgrug dros y penwythnos wedi ei garcharu.
Achosodd Ryan Seaman o Faes y Dre, yr Wyddgrug, ddifrod sylweddol i'r ddau gerbyd ar ôl eu cymryd heb ganiatâd o eiddo ym Mhen y Bryn a Hawthorn Avenue yn oriau mân dydd Sul (26 Ionawr)
Tua 5.30am y bore hwnnw, gyrrodd i orsaf betrol Esso yn yr Wyddgrug mewn car yr oedd wedi ei ddwyn o Hawthorn Avenue a'i lenwi â thanwydd, ac ni wnaeth unrhyw ymdrech i dalu amdano. Mi wnaeth hefyd ddwyn alcohol o'r siop.
Pan gafodd Seaman ei herio, rhedodd i ffwrdd tuag at yr Wyddgrug, gan adael y car a ddifrodwyd yn sylweddol.
Tua 50 munud ynghynt, roedd wedi bod i'r un orsaf betrol gan geisio defnyddio cerdyn banc perchennog y car i brynu gwerth dros £50 o nwyddau.
Am 7.45am, yn ddiweddarach y bore hwnnw, arestiwyd Seaman ar ôl iddo gael ei ganfod yn gyrru fan wedi'i ddwyn ar Parc Avenue, yr Wyddgrug, a oedd hefyd wedi'i ddifrodi'n ddifrifol.
Cafodd ei gyhuddo wedi hynny o ddwyn cerbyd, dwyn o siop, a gyrru i ffwrdd heb dalu am danwydd a thwyll trwy gynrychiolaeth ffug.
Cafodd hefyd ei gyhuddo o fethu â darparu sbesimen i'w ddadansoddi pan gafodd ei stopio gan swyddogion a gyrru heb drwydded nac yswiriant.
Cyfaddefodd ei fod wedi cyflawni'r holl droseddau ac fe'i dedfrydwyd i 60 wythnos yn y carchar ar ddydd Mawrth, 28 Ionawr .
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a hanner a derbyniodd ddirwy o £187.
Mae Ricky Richardson, 40, o Faes y March, yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o gael ei gludo yn un o'r cerbydau sydd wedi'u dwyn, yn ogystal â dwyn o siopau, a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener, 28 Chwefror.
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Jones: "Mae Seaman yn droseddwr toreithiog, ac rwy'n gobeithio y bydd y ffaith ei fod wedi cael ei arestio a'i ddedfrydu yn gyflym yn dod â rhywfaint o ryddhad i lawer yn y gymuned leol, ac yn enwedig y dioddefwyr sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau hyn.
"Rydym yn cymryd digwyddiadau o'r fath o ddifri a byddwn yn mynd ar drywydd y rhai sy'n achosi'r niwed mwyaf difrifol yn ddidrugaredd."