Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 40 oed a ymosododd ar swyddog heddlu wedi cael ei garcharu.
Kevin Humphrey Jones, o Ben Y Bry, Dwyran. Llanfairpwllgwyngyll, ymddangosodd yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, dydd Mawrth 14 Ionawr, ar ôl cyfaddef cyhuddiad o glwyfo wrth iddo wrthsefyll arestio.
Yn fuan ar ôl hanner nos ar 8 Rhagfyr, roedd PC James Marsden a chydweithiwr yn ymateb i adroddiad o ymosodiad domestig yn Llangefni pan ddechreuodd Jones wrthsefyll arestio.
Yn ystod y frwydr, fe wnaeth Jones binio PC Marsden i lawr cyn brathu darn o'i glust i ffwrdd.
Fe dynnodd swyddog arall Jones oddi wrth PC Marsden cyn ei roi mewn cyffion.
Aed â'r swyddog i'r ysbyty lle dywedwyd wrtho fod cartilag ei glust wedi dioddef difrod o'r fath, byddai ei glust yn cael ei anffurfio'n barhaol.
Cafodd Jones ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis am y digwyddiad.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis: "Nid yw dioddef ymosodiad yn rhan o'r gwaith ac ni fydd byth yn rhan o'r gwaith.
"Nid oes unrhyw ymosodiad ar unrhyw weithiwr gwasanaeth brys byth yn dderbyniol a bydd troseddwyr yn cael eu trin yn gadarn.
"Cafodd PC Marsden anaf na fydd byth yn gwella wrth iddo geisio amddiffyn rhywun oedd angen help.
"Roedd yn rhaid iddo fynd adref at ei anwyliaid ac egluro i'w bartner beichiog beth oedd wedi digwydd tra ar ddyletswydd.
"Unwaith y dywedwyd wrtho y byddai angen iddo gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, un o'i bryderon cyntaf oedd yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar allu ei dîm i ymateb i argyfyngau pellach ar Ynys Môn.
"Heb os, bydd hyn yn cael effaith barhaol, nid yn unig ar PC Marsden, ond ar ei gydweithwyr a'i deulu hefyd.
"Byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i alw trais tuag at unrhyw weithiwr brys, sy'n mynd i'r gwaith bob dydd i wynebu perygl i'ch helpu a'ch diogelu."
Dywedodd Lewis Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol a Thrysorydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru hefyd: "Rydym yn croesawu'r ddedfryd a basiwyd heddiw yn dilyn yr ymosodiad ffiaidd yn erbyn ein haelod PC James Marsden a gafodd ei anafu wrth wneud ei waith a gwasanaethu'r cyhoedd.
"Rydym wedi bod yn lleisiol yn lleol ac yn genedlaethol na ddylid byth derbyn ymosodiadau ar ein swyddogion fel "rhan o'r swydd" a bod angen gwella dedfrydu i weithredu fel rhwystr.
"Rydym yn parhau i gefnogi James a'i deulu wrth iddo wella o'i anafiadau."