Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 24 oed wedi ei garcharu ar ôl ymosod ar siopwr yng Nghaernarfon.
Ymddangosodd Mark Anthony Jones, o Lôn Maesincla, Caernarfon, yn Llys y Goron Caernarfon ar 24 Ionawr ar ôl cyfaddef ymosod yn waethygol a hiliol a thagu bwriadol.
Ar 2 Awst 2024, roedd Jones mewn siop ar y Bont Bridd yng Nghaernarfon pan ddechreuodd weiddi sarhadau hiliol at y siopwr gan ddweud, "dos yn ôl i dy wlad dy hun" a "mi lladdai di".
Yna ymosododd Jones ar y siopwr a ofynnodd iddo adael, gan afael ynddo fo a'i dagu fo cyn i aelod o'r cyhoedd ymyrryd.
Fe wnaeth Jones ddianc cyn i'r heddlu gyrraedd, ond cafwyd hyd iddo fo'n fuan gerllaw.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis.
Derbyniodd orchymyn atal hefyd er mwyn gwarchod y dioddefwr, a fydd yn parhau am 10 mlynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Dros Dro Andy Davies: "Roedd ymddygiad Jones tuag at siopwr yn ceisio gwneud ei waith yn warthus ac yn annerbyniol.
"Roedd y digwyddiad hwn yn frawychus i'r dioddefwr, ac mae'n ffodus bod pobl eraill o gwmpas i ddod i'w helpu fo.
"Byddwn yn delio'n gadarn hefo achosion troseddau casineb, a dwi'n wir yn gobeithio bod Jones yn myfyrio ar ei ymddygiad ffiaidd."
Dylai unrhyw un sy'n profi sarhad hiliol roi gwybod i'r heddlu drwy ein gwefan ni, drwy ffonio 101, neu fel arall drwy asiantaeth gymorth.