Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 48 oed wedi ei garcharu am siopladrad yn y Bermo.
Mi ymddangosodd Kenneth Adam Hyde, o Bromenâd y Bermo, yn Llys Ynadon Caernarfon ar ddydd Mawrth, 28 Ionawr, ar ôl cyfaddef lladrata.
Ar 23 Ionawr, mi wnaeth Hyde ddwyn eitemau gwerth £56 o Co-op, heb geisio talu amdanyn nhw o gwbl.
Mi gafod ei arestio ar ôl cael ei adnabod drwy luniau TCC.
Mi gafodd Hyde, oedd wedi torri amodau ei drwydded ar adeg y drosedd, ei garcharu am bythefnos am y siopladrad, ac mi gafodd orchymyn i gyflawni gweddill ei gyfnod trwydded tan Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Mae’n rhaid iddo rŵan aros yn y carchar tan ddaw ei drwydded i ben, sy’n para tan 20 Rhagfyr 2026.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Iwan Jones: “Nid ydy lladrad manwerthu yn ‘drosedd heb ddioddefwr’, ac mae’n cael effaith wirioneddol ar y busnesau a’r staff sy’n teimlo’i effaith.
“Mi wnawn ni barhau gweithio efo partneriaid a phreswylwyr er mwyn gwarchod y rhai sy’n gweithio yn y sector manwerthu.”